Ymchwiliad i gŵyn yn erbyn
Trivallis (202402960)
23 Hydref 2025
Os dymunwch dderbyn fersiwn PDF o’r adroddiad hwn, cysylltwch â cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.
Cyhoeddir yr adroddiad hwn o dan adran 23 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Rydym wedi cymryd camau i gelu pwy yw’r achwynydd ac eraill, cyn belled ag y bo modd. Mae enw’r achwynydd ac eraill wedi cael eu newid hefyd.
Cwynodd Mr B am y ffordd yr oedd cymdeithas dai Trivallis (“y Gymdeithas”) wedi delio ag adroddiadau am waith atgyweirio yn ei gartref. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni a boeler wedi torri.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni yng nghartref Mr B. Pan roddodd Mr B wybod i’r Gymdeithas am y problemau, ni chawsant sylw yn unol â pholisïau a chanllawiau perthnasol. O ganlyniad, bu Mr B yn byw mewn cartref gydag atgyweiriadau heb eu gwneud am bron i 7 mlynedd.
Ni ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau bod y boeler wedi torri yng nghartref Mr B ac ni ddilynodd ei pholisi atgyweirio. Yn ystod y cyfnod yr oedd disgwyl i’r boeler gael ei atgyweirio, nid oedd Mr B yn gallu cynhesu ei gartref i lefel gyfforddus. Gwnaed gwaith atgyweirio yn y diwedd ar ôl i wraig Mr B gwyno i’r Gymdeithas.
Er nad oedd yn fater a nodwyd yn benodol ar gyfer ymchwiliad, roedd gan yr Ombwdsmon bryderon hefyd ynghylch y ffordd yr oedd y Gymdeithas wedi ymateb i gŵyn Mr B. Ni lwyddodd y Gymdeithas i gadw cofnodion cywir, ac arweiniodd hyn at gamgymeriadau sylfaenol yn y ffordd yr aethpwyd i’r afael â chwyn Mr B.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus y gallai’r methiannau a nodwyd yn yr achos hwn fod yn systemig. Ni roddodd y Gymdeithas esboniad pam na chafodd problemau eu datrys yn gynt, er bod Mr B wedi gwneud llawer o geisiadau am atgyweirio. Mae’r methiannau a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn hefyd yn arwyddocaol. Nid oedd gweithwyr y Gymdeithas wedi mynd i gartref Mr B i archwilio’r to; defnyddiwyd ffotograffau o ymweliad blaenorol i gefnogi’r honiad anghywir eu bod wedi gwneud hynny. Yn ogystal â hyn, methodd y Gymdeithas â darparu’r cofnodion y gofynnwyd amdanynt fel rhan o’r ymchwiliad hwn.
Cyflwynodd yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, ac fe wnaeth y Gymdeithas eu derbyn:
O fewn 1 mis:
a) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cydnabod y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac wedi ymddiheuro i Mr B amdanynt.
b) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cynnig iawndal ariannol o £625 i Mr B am y poen meddwl a achoswyd iddo gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Mae hyn yn ychwanegol at y £375 a ddarparwyd eisoes, sy’n rhoi cyfanswm o £1,000 o iawndal ariannol. Nid wyf wedi ystyried iawndal am y costau a ddaeth i ran Mr B gan fod y Gymdeithas wedi rhoi sylw i hyn yn barod.
O fewn 3 mis:
c) Sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn cael hyfforddiant i adnabod cwsmeriaid agored i niwed ac ymateb iddynt mewn ffordd briodol.
ch) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi datblygu a chyflwyno gweithdrefn lleithder a llwydni.
d) Sicrhau bod rhaglen hyfforddi sy’n seiliedig ar senarios yn cael ei darparu i’r holl staff perthnasol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r achos hwn a bod staff yn ystyried amgylchiadau unigol wrth flaenoriaethu gwaith atgyweirio.
dd) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi datblygu a chyflwyno proses i sicrhau bod ceisiadau sy’n cael eu gwneud dro ar ôl tro am atgyweirio yn cael eu nodi, eu cofnodi a’u huwchgyfeirio ar gyfer ymchwiliad pellach.
e) Adolygu ei phroses rheoli cofnodion a gwneud newidiadau angenrheidiol i sicrhau ei bod yn cydymffurfio ag egwyddorion “Materion yn ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda”.
f) Rhannu copi o’r adroddiad hwn gyda Phwyllgor Sicrwydd y Gymdeithas, a ddylai oruchwylio a monitro cydymffurfiad y Gymdeithas â’r argymhellion hyn.
1. Cwynodd Mr B am y ffordd yr oedd cymdeithas dai Trivallis (“y Gymdeithas”) wedi delio ag adroddiadau am waith atgyweirio yn ei gartref. Ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:
a) A ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni yng nghartref Mr B rhwng 2016 a mis Mai 2023.
b) A ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau bod boeler wedi torri yng nghartref Mr B, rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ebrill 2024.
2. Derbyniais sylwadau a chopïau o ddogfennau perthnasol gan y Gymdeithas a Mr B, ac ystyriais y rhain ar y cyd â’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Mr B. Nid wyf wedi cynnwys pob manylyn yr ymchwiliwyd iddo yn yr adroddiad hwn, ond rwy’n fodlon nad oes dim byd o bwys wedi cael ei hepgor.
3. Cafodd Mr B a’r Gymdeithas gyfle i weld a chyflwyno sylwadau ar fersiwn ddrafft o’r adroddiad hwn cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.
4. Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid ynghylch cyflwr y cartrefi y maent yn eu gosod. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod annedd mewn cyflwr da ac yn addas i fod yn gartref.
- Mae adran 92 o’r Ddeddf yn datgan rhaid i landlord, o dan gontract diogel, gynnal ac atgyweirio strwythur a thu allan yr annedd.
- Mae adran 97 o’r Ddeddf yn datgan nid yw rhwymedigaethau landlord o dan Adran 92 yn codi nes iddynt ddod yn ymwybodol bod angen gwneud gwaith atgyweirio.
- Mae adran 97 hefyd yn datgan bod landlord wedi cydymffurfio â rhwymedigaethau Adran 92 os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn amser rhesymol.
5. Cyflwr a Diffyg Atgyweirio Tai Cymdeithasol: Adborth i Landlordiaid Cymdeithasol (“Adborth am Ddiffyg Atgyweirio”), Llywodraeth Cymru, Chwefror 2022. Mewn perthynas â diffyg atgyweirio:
- Mae “pwynt meddwl 2” yn nodi: “Dylai fod gan landlordiaid cymdeithasol brosesau, systemau a diwylliant o berchenogaeth er mwyn i broblemau allu cael eu nodi a’u huwchgyfeirio’n hawdd at sylw’r bobl iawn”.
- Mae “pwynt meddwl 9” yn nodi: “Dylai landlordiaid cymdeithasol sicrhau bod mesurau ar waith i nodi’n benodol broblemau sy’n ymwneud â lleithder a llwydni y rhoddwyd gwybod amdanynt a mynd i’r afael â nhw. Dylai hyn gynnwys cynnal ymchwiliadau/archwiliadau yn ddiofyn, gan sicrhau bod cyddwysiad a’i achosion yn cael eu diagnosio’n gywir, unioni unrhyw ddiffygion cyn gynted â phosibl a rhoi cymorth a chyngor i denantiaid”.
6. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (a gyflwynwyd yn 2002 ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2024) yn nodi’r safonau a ddisgwylir ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, y mae landlordiaid yn cael eu mesur yn eu herbyn. Mae hyn yn golygu nad oes lleithder i fod mewn cartrefi, gan gynnwys cyddwysiad parhaus. Mae hefyd yn datgan y dylai fod gan gartrefi system wresogi sy’n gallu eu gwresogi i lefel gyfforddus.
7. Trechu Tlodi Tanwydd 2021 i 2035, Llywodraeth Cymru, Mawrth 2021 (“y Strategaeth Tlodi Tanwydd”).1 Mae’n diffinio trefn wresogi foddhaol ar gyfer aelwydydd sy’n cynnwys person anabl fel 23 gradd Celsius yn yr ystafell fyw ac 18 gradd Celsius mewn ystafelloedd eraill, a hynny am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr. Mae’r diffiniad o aelwydydd agored i niwed yn cynnwys aelwydydd lle mae preswylwyr yn 60 oed neu’n hŷn a lle mae gan breswylwyr salwch neu anabledd hirdymor.
8. Polisi Atgyweirio’r Gymdeithas, dyddiad cymeradwyo 10 Hydref 2023, sy’n rhoi manylion amserlenni ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio. Mae’n nodi y bydd gwaith atgyweirio sy’n ymwneud â cholli gwres dŵr neu ofod yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod rhwng 31 Hydref a 1 Mai yn cael ei gwblhau o fewn 24 awr, yn ogystal â gollyngiadau o seston, tanc neu bibell ddŵr neu wresogi. Mae’n nodi y bydd gwaith atgyweirio ar do sy’n gollwng yn cael ei wneud o fewn 7 diwrnod gwaith. Mae’r gwaith atgyweirio sydd i’w gwblhau o fewn 6-12 mis yn cynnwys “Yr holl waith i atgyweirio to, dim ond yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro”.
9. Polisi Cwynion y Gymdeithas (“y Polisi Cwynion”). Mae hwn yn rhoi manylion 2 Gam proses gwynion y Gymdeithas. Datrysiad anffurfiol yw Cam 1, gyda tharged ymateb o 10 diwrnod gwaith. Ymchwiliad mewnol ffurfiol yw Cam 2, a gellir gwneud cais am hyn os yw achwynydd yn anfodlon gydag ymateb Cam 1. Mae’r Polisi Cwynion yn cynnwys yr ymrwymiad i “ymchwilio unwaith, ymchwilio’n dda”. Mae hefyd yn datgan y bydd pob ymchwiliad ffurfiol yn cael ei gofnodi.
10. Rhaid i bob corff cyhoeddus a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998, a oedd yn ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“y Confensiwn”) yng nghyfraith y DU. Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn yn rhoi i unigolion yr hawl i gael parch mewn bywyd preifat a theuluol.
11. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (“Ddeddf Cydraddoldeb”) yn rhoi amddiffyniad cyffredinol rhag gwahaniaethu i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig, fel anabledd. Mae’n diffinio pobl anabl fel pobl sydd ag amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol “sylweddol” a “hirdymor” ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gosod dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus (“y ddyletswydd cydraddoldeb”) ar gyrff cyhoeddus a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn mynnu eu bod yn rhoi sylw dyledus i’r angen i ddileu ymddygiad sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf Cydraddoldeb, i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a phobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig, ac i feithrin cysylltiadau da rhwng yr unigolion hynny. Rhaid i gyrff cyhoeddus a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus ystyried pob un o’r nodau dyletswydd cydraddoldeb fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau, dylunio polisïau a darparu gwasanaethau.
12. Nid fy swyddogaeth i yw gwneud canfyddiadau pendant ynghylch a oes gwahaniaethu wedi digwydd neu a yw hawliau unigolyn wedi cael eu torri. Fodd bynnag, os nad yw corff yn rhoi sylw i Hawliau Dynol a’r Ddeddf Cydraddoldeb wrth gyflawni ei swyddogaethau, byddaf yn rhoi sylwadau ar hyn.
13. Byw mewn Cyflyrau Difrifol – adroddiad thematig am ddiffyg atgyweirio tai a chwynion am leithder a llwydni i fy swyddfa (“yr Adroddiad Thematig”)2, OGCC Tachwedd 2024, a oedd yn adrodd ar gwynion ynghylch lleithder, llwydni ac amodau gwael mewn tai cymdeithasol. Roedd yr Adroddiad Thematig hefyd yn ystyried sut mae darparwyr tai yn ymateb i anghenion preswylwyr agored i niwed, ac yn argymell bod atgyweiriadau’n cael eu blaenoriaethu’n briodol yn unol â pholisïau sydd wedi cael eu cyhoeddi. Er nad oedd yr adroddiad hwn wedi cael ei gyhoeddi ar y pryd, mae’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau y cyfeirir atynt.
14. Mae Egwyddorion Gweinyddu Da OGCC3, a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd, yn rhoi canllawiau i bob corff cyhoeddus yng Nghymru eu dilyn.
- Egwyddor 2 yw “Canolbwyntio ar y Cwsmer”, drwy ddelio â phobl yn gymwynasgar, yn brydlon ac yn sensitif, gan ystyried eu hamgylchiadau unigol.
- Egwyddor 5 yw “Gwneud Pethau yn Iawn” drwy gydnabod camgymeriadau a chymryd camau prydlon i unioni pethau.
Rhaid i Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau.
15. Materion Rheoli Cofnodion yn Dda OGCC, sy’n nodi 7 egwyddor rheoli cofnodion yn dda4.
- Egwyddor 2 yw “Bod â systemau rheoli cofnodion effeithiol ar waith” gan gynnwys systemau cadw cofnodion strwythuredig, sy’n dangos bod unrhyw gofnodion a ddinistriwyd wedi cael eu dinistrio fel rhan o arfer busnes arferol.
- Egwyddor 3 yw “Creu cofnodion dibynadwy” sy’n nodi y dylai llwybrau archwilio clir fod ar waith i ddangos pryd mae cofnod wedi cael ei greu neu ei ddiweddaru.
- Egwyddor 7 yw “Storio cofnodion yn ddiogel fel bod modd cael gafael arnynt yn hawdd pan fo angen”. Dylai gwybodaeth fod yn “ddarganfyddadwy, yn hygyrch ac yn ddefnyddiadwy”.
3 Egwyddorion Gweinyddu Da – o dan adran 34 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019
16. Mae cofnodion a ddarparwyd gan y Gymdeithas yn dangos bod Mr B wedi dweud bod lleithder yn ei gegin ym mis Ionawr 2016. Darparodd Mr B gopi o lythyr heb ddyddiad gan y Gymdeithas yn ei hysbysu bod gwaith atgyweirio i’w do i fod i gael ei wneud ar 23 Medi. Ym mis Ionawr 2018 mae cofnodion yn dangos bod adroddiad pellach ynglŷn â lleithder wedi cael ei wneud, ond ni nodir ble yng nghartref Mr B yr oedd hyn. Ym mis Rhagfyr 2019 dywedodd Mr B bod lleithder yng nghyntedd ei gartref. Nid yw’r Gymdeithas wedi gallu darparu unrhyw fanylion am y ceisiadau hyn gan fod y system cofnodi atgyweiriadau yr oedd yn ei defnyddio ar y pryd wedi cael ei datgomisiynu yn 2020 ac nid yw bellach yn gallu cael gafael ar ddata ohoni.
17. Ar 3 Mawrth 2022 adroddodd Mr B am leithder yn ei gartref. Roedd yn amau mai to’n gollwng neu broblem gyda’r gwteri oedd yn achosi hyn. Ymwelodd swyddogion o’r Gymdeithas â chartref Mr B ar 11 Mawrth, lle cadarnhawyd bod lleithder ar waliau’r landin. Penderfynwyd mai problem gyda’r ffelt ar y to oedd y rheswm am hyn. Gwnaed gwaith ar do Mr B i fynd i’r afael â’r mater ar 26 Ebrill.
18. Ar 24 Awst cysylltodd Mr B â’r Gymdeithas gan ei fod yn amau bod y to’n gollwng eto, er gwaethaf y gwaith a wnaed ym mis Ebrill. Dywedodd ei fod hefyd yn cael problemau gyda lleithder mewn llefydd eraill ar lawr gwaelod ei gartref.
19. Aeth swyddogion o’r Gymdeithas i gartref Mr B ar 28 Medi. Roedd man gwlyb ar wal wrth ymyl ystafell ymolchi Mr B, a hynny mae’n debyg oherwydd bod sêl y bath wedi methu. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddiffygion ar y to a chofnodwyd mai “cyddwysiad ar y grisiau oedd y broblem”.
20. Cofnododd y Gymdeithas leithder cymharol o 71.4% ar gyfer lolfa cartref Mr B, sydd gryn dipyn yn uwch na’r uchafswm a argymhellir, sef 60%. Cofnodwyd bod cynnwys lleithder y sgyrtin yn 999. Cofnodwyd bod gan y waliau leithder pren oedd yn cyfateb i 999. Dyma’r sgoriau uchaf posibl, sy’n dangos eu bod yn eithriadol o wlyb. Cofnodwyd mai 16.3°C oedd tymheredd y wal.
21. Cofnodir arsylwadau gweledol ond ni phennir i ba ystafell neu ystafelloedd y maent yn perthyn. Cofnodir bod llwydni’n tyfu, paent yn pothellu, plastr yn erydu a phren yn pydru. O dan adran o’r enw “Diagnosis”, mae symbol wedi’i ysgrifennu â llaw wrth ymyl y cofnod “lleithder codi” ac “N” wrth ymyl “cyddwysiad”. Cynhaliwyd archwiliad o’r wal geudod, ond ni chanfuwyd beth oedd wrth wraidd y broblem.
22. Adroddwyd bod archwiliad o’r to wedi’i gynnal ar 19 Hydref a oedd yn nodi bod ffelt y to wedi’i osod yn gywir, nad oedd unrhyw broblemau gyda’r to a bod lleithder yn cael ei achosi gan gyddwysiad ar y grisiau. Fodd bynnag, deallwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn nad oedd archwiliad wedi cael ei gynnal a bod gweithwyr y Gymdeithas wedi defnyddio ffotograffau blaenorol i ysgrifennu eu hadroddiad.
23. Ar 4 Ionawr 2023 dywedodd Mr B ei fod yn amau bod lleithder ar du blaen ei gartref. Aeth syrfëwr o’r Gymdeithas i gartref Mr B ar 11 Ionawr a daeth i’r casgliad bod angen archwilio’r to. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn ar 1 Mawrth. Canfuwyd bod problem barhaus gyda lleithder, ond nid oedd yn amlwg beth oedd yn ei achosi. Dywedodd y byddai angen sgaffaldiau i ymchwilio ymhellach i’r to, gan fod angen tynnu rhai rhannau o deils. Codwyd sgaffaldiau ac atgyweiriwyd to Mr B ar 2 Mai.
24. Ar 17 Ionawr 2024 cyflwynodd Mr B adroddiad atgyweirio y tu allan i oriau gan fod nam ar ei foeler. Daeth swyddog o’r Gymdeithas yno’r diwrnod hwnnw a newid cynhwysydd ehangu (a ddefnyddir i reoli gwasgedd pan fydd dŵr yn cynhesu ac yn oeri) ar y boeler. Ar 3 Chwefror gwnaed ail gais y tu allan i oriau i atgyweirio’r boeler. Aeth swyddog o’r Gymdeithas i gartref Mr B y diwrnod wedyn. Yn ôl y nodiadau a wnaed ar y pryd, roedd y gwasgedd yn y boeler wedi codi, roedd problem barhaus gyda’r falf ynysu (sy’n rheoli llif y dŵr i’r system gwres canolog) ac roedd angen gwneud gwaith atgyweirio pellach.
25. Ar 14 Chwefror cofnodwyd cais arall i atgyweirio’r boeler. Mae hwn yn cyfeirio at broblem barhaus frys lle’r oedd y falf ynysu’n gollwng. Roedd angen gwneud gwaith i’w atgyweirio cyn gynted â phosibl.
26. Mae llythyr heb ddyddiad arno gan y Gymdeithas, a anfonwyd at wraig Mr B (Mrs B), yn cyfeirio at y gwaith atgyweirio fel “problem barhaus frys” a bod angen “atgyweirio cyn gynted â phosibl”. Ymwelodd peiriannydd â chartref Mr B ar 20 Chwefror ac atgyweirio’r falf ynysu, ond nodwyd nad oedd yn gallu ei thynnu a bod angen ymweliad arall.
27. Dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi ceisio cysylltu â Mrs B ar 8 Mawrth i drefnu apwyntiad ar gyfer y diwrnod hwnnw, ond nad oedd wedi cael ateb. O ganlyniad, trefnwyd apwyntiad ar gyfer 12 Mawrth. Ar 12 Mawrth ffoniodd Mrs B i ganslo’r apwyntiad gan fod angen iddi fynd i’r gwaith. Aildrefnwyd yr apwyntiad ar gyfer 3 Ebrill ond fe’i canslwyd gan y Gymdeithas ar 2 Ebrill gan fod y peiriannydd yn sâl. Darparwyd dyddiad newydd o 10 Mai gan y Gymdeithas i beiriannydd fod yn bresennol. Cysylltodd Mrs B â’r Gymdeithas i gwyno am yr oedi cyn atgyweirio’r boeler. Ymwelodd goruchwyliwr â chartref Mr B ar 4 Ebrill i asesu’r gwaith angenrheidiol a chafodd y falf a oedd wedi torri ei newid y diwrnod canlynol.
28. Ar 11 Ionawr 2023 cwynodd Mr B i’r Gymdeithas. Cwynodd am nifer o faterion, gan gynnwys nad oedd y Gymdeithas wedi archwilio ei do fel y trefnwyd ar 19 Hydref 2022, a’i fod yn dal i gael problemau gyda lleithder a llwydni yn ei gartref.
29. Rhoddodd y Gymdeithas gopi i’m swyddfa o’i hymateb Cam 1 gwreiddiol i gŵyn Mr B, dyddiedig 23 Ionawr. Mae’r ymateb yn nodi bod 2 aelod o staff wedi archwilio to Mr B ar 19 Hydref 2022, wedi tynnu lluniau, ac wedi dod i’r casgliad nad oedd problemau gyda’r to na’r gwteri. Dywedwyd bod y llwydni du yng nghartref Mr B yn cael ei achosi gan gyddwysiad, yn hytrach nag unrhyw broblem gyda’r to. Dywedwyd, oherwydd mai lleithder oedd wedi cael y bai am y llwydni yn y gorffennol, a hynny’n anghywir, fod oedi wedi bod wrth fynd i’r afael â’r mater. Felly, nid oeddent yn cadarnhau’r rhan hon o’r gŵyn.
30. Darparodd Mr B gopi o’r ymateb terfynol a dderbyniodd gan y Gymdeithas, dyddiedig 20 Mawrth. O ran y to, mae’r ymateb terfynol a ddarparwyd gan Mr B i ddechrau yn ailadrodd yr un wybodaeth a roddwyd yn y copi o’r ymateb gwreiddiol a roddodd y Gymdeithas i’m swyddfa. Fodd bynnag, mae’r ymateb terfynol yn mynd ymlaen i nodi “ar ôl ymchwilio ymhellach i’r mater, mae’n ymddangos nad oedd y towyr wedi cynnal archwiliad a’u bod wedi defnyddio hen ymweliad fel tystiolaeth”. Ymddiheurodd am hyn a dywedodd fod y mater wedi cael ei drosglwyddo i’r rheolwyr ymchwilio iddo. Dywedwyd hefyd y byddai archwiliad o’r to yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl, gyda golwg ar wneud gwaith atgyweirio pan fyddai’r tywydd yn gwella.
31. O ran llwydni, mae’r ymateb terfynol yn nodi “bod tystiolaeth o ddŵr yn mynd i mewn ac yn achosi llwydni du”. Nid oes unrhyw sôn am gyddwysiad.
32. Ar 17 Awst cysylltodd Mr B â’r Gymdeithas. Nododd, ar ôl yr ymateb terfynol i’r gŵyn ar 20 Mawrth, fod y swyddog ymchwilio wedi dweud y byddai iawndal yn cael ei ystyried, ond nad oedd wedi clywed dim byd pellach.
33. Ar 17 Tachwedd rhoddodd y Gymdeithas ymateb Cam 2 i gŵyn Mr B. Mae adran sy’n rhoi’r rheswm dros y gŵyn yn cynnwys llawer o’r ymateb Cam 1 gwreiddiol a ddarparwyd i’m swyddfa, dyddiedig 23 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys yr honiad bod archwiliad wedi cael ei gynnal ar 19 Hydref 2022, nad oedd wedi canfod unrhyw broblemau gyda tho Mr B, ac mae’n datgan na chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mr B. Mae hefyd yn ailadrodd y cyfeiriad at gyddwysiad yn achosi llwydni du, yn hytrach na dŵr yn dod i mewn.
34. Dywedodd fod yr adroddiad cyntaf mewn perthynas â tho Mr B wedi’i gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2020 a bod sawl cais wedi cael ei wneud i atgyweirio’r to ers y dyddiad hwn. Roedd yr ymateb yn nodi bod timau wedi ymweld ac wedi dweud nad oedd unrhyw arwyddion o waith atgyweirio, a dyna pam y credid bod cyddwysiad wedi bod yn broblem. Dywedodd, pan nad oedd ymdrechion i drin cyddwysiad yn llwyddiannus, fod rhagor o waith ymchwilio wedi cael ei wneud. Yn sgil hynny, roedd y broblem wedi cael ei chanfod a’r gwaith atgyweirio wedi cael ei wneud ym mis Mai y flwyddyn honno. Roedd yn cydnabod bod gwaith atgyweirio wedi cael ei wneud yng nghartref Mr B oherwydd difrod dŵr. Roedd yn dweud bod “to’r tenant wedi bod yn gollwng rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mai 2023”. Cynigiwyd £300 o iawndal i Mr B i gydnabod yr oedi hwn a’r tarfu a’r anhwylustod a achoswyd iddo.
35. Ar 4 Ebrill 2024 cysylltodd Mrs B â’r Gymdeithas i gwyno am yr amser yr oedd yn ei gymryd i atgyweirio’r boeler. Ar 17 Ebrill anfonodd y Gymdeithas ymateb i gŵyn Mrs B. Ymddiheurodd am yr amser yr oedd wedi’i gymryd i atgyweirio’r boeler, a oedd wedi cael ei atgyweirio ers hynny, a chynigodd daliad o £75 iddi i gydnabod yr anhwylustod.
36. Ar 9 Mai ffoniodd Mrs B y Gymdeithas i ofyn i’w chwyn gael ei huwchgyfeirio i Gam 2 o drefn gwyno’r Gymdeithas. Ymatebodd y Gymdeithas ar 7 Mehefin. Dywedodd fod y cynnig o £75 yn ffordd deg o ddatrys yr anghyfleustra a achoswyd. Cwynodd Mr B i’m swyddfa ym mis Gorffennaf.
37. Dywedodd Mr B fod y problemau gyda’r gwaith atgyweirio yn ei gartref a sut yr oedd y Gymdeithas wedi ymateb i’w gwynion wedi cael effaith sylweddol ar ei iechyd corfforol a meddyliol. Mae ganddo arthritis (cyflwr sy’n achosi poen a llid yn y cymalau) ac osteoporosis (cyflwr sy’n gwanhau’r esgyrn) a dywedodd fod y ddau gyflwr wedi gwaethygu oherwydd yr amodau oer a llaith. Dywedodd Mr B ei fod ef a’i wraig yn falch iawn o’u cartref a’u bod wedi gwneud popeth yn eu gallu i’w gynnal a’i gadw. Dywedodd fod blynyddoedd o gysylltu â’r Gymdeithas i drefnu i atgyweiriadau gael eu gwneud wedi bod yn ffynhonnell straen enfawr, ac o ganlyniad i hyn roedd wedi cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn ac wedi cael ei gyfeirio at wasanaeth cwnsela.
38. Dywedodd Mr B, pan oedd y Gymdeithas wedi gwneud gwaith ar y to, ei fod yn cael gwybod bod y broblem lleithder a llwydni wedi cael ei datrys. Yna, byddai’n trefnu i ailaddurno, ond byddai’r lleithder a’r llwydni’n ailymddangos, mewn cylch a ddisgrifiodd fel un “torcalonnus”. Dywedodd Mr B ei fod wedi wynebu costau ariannol sylweddol o dros £800 i wneud y gwaith addurno hwn.
39. Dywedodd Mr B fod y ffordd yr ymdriniodd y Gymdeithas â’i gŵyn wedi achosi poen meddwl a dryswch iddo. Dywedodd fod y Swyddog Ymchwilio wedi ymweld â’i gartref ar ôl yr ymateb gwreiddiol i gŵyn Cam 1 dyddiedig 23 Ionawr. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, dangosodd y Swyddog Ymchwilio i Mr B y ffotograffau a gyflwynwyd gan staff y Gymdeithas fel tystiolaeth bod archwiliad wedi’i gynnal o’r to ar 19 Hydref 2022. Tynnodd Mr B sylw at y ffaith bod sgaffaldiau i’w gweld yn y ffotograffau, ac nad oedd sgaffaldiau yno ar 19 Hydref. Yn dilyn yr ymweliad hwnnw anfonwyd yr ymateb diwygiedig i’r gŵyn, dyddiedig 20 Mawrth.
40. Yr hyn a oedd yn peri pryder penodol i Mr B oedd y gwahaniaethau sylweddol rhwng yr ymatebion a gafodd o dan Cam 1 a Cham 2. Dywedodd nad oedd yn deall pam fod ymateb Cam 2 yn cyfeirio at ei gŵyn am atgyweiriadau i’r to ddim yn cael ei chadarnhau, pan oedd y Gymdeithas wedi cydnabod yn flaenorol fod staff wedi dweud celwydd am ddod i weld. Dywedodd fod hyn yn gwneud iddo deimlo nad oedd y Gymdeithas yn cymryd ei bryderon o ddifrif.
41. Dywedodd Mr B fod ei gartref yn oer iawn yn ystod y cyfnod pan oedd yn aros i’r boeler gael ei atgyweirio. Gan nad oedd y boeler yn gweithio’n iawn, nid oedd bob amser yn gallu defnyddio’r system gwres canolog. Dywedodd fod hyn yn broblem benodol iddo oherwydd ei gyflyrau meddygol a’i fod yn gorfod treulio amser mewn llefydd eraill gan fod y tŷ’n rhy oer iddo.
42. Pan ofynnwyd i’r Gymdeithas pryd oedd y tro cyntaf iddi gael adroddiad am do yn gollwng yng nghartref Mr B, dywedodd fod ganddi nodyn yn dyddio’n ôl i fis Ionawr 2016 lle’r oedd sôn am leithder posibl yn y gegin, ond nid oedd yn gallu darparu rhagor o fanylion. Y rheswm am hyn oedd bod y system atgyweirio a ddefnyddiwyd ar y pryd wedi cael ei datgomisiynu ym mis Mehefin 2020 ac nad oes gwybodaeth benodol am atgyweirio ar gael mwyach.
43. Pan ofynnwyd beth arweiniodd at ganfod y broblem gyda tho Mr B a’i atgyweirio ym mis Mai 2023, dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi bod yno sawl gwaith cyn hyn er mwyn datrys y problemau gyda’r to.
44. Dywedodd y Gymdeithas fod gweithdrefn lleithder a llwydni wedi cael ei llunio ym mis Rhagfyr 2024. Roedd y copi a ddarparwyd ar ffurf drafft. Pan ofynnwyd am hyn, dywedodd y Gymdeithas fod y weithdrefn wedi’i mabwysiadu’n ddiweddarach, ond sefydlwyd yn eithaf buan nad oedd y weithdrefn yn ddigonol. Dywedodd y Gymdeithas fod yr holl waith atgyweirio ar y boeler wedi’i gwblhau o fewn yr amserlenni a nodir yn ei pholisi atgyweirio, ond roedd yn cydnabod y byddai amserlen fyrrach wedi bod yn fwy addas. Dywedodd na chafodd Mr B ei adael heb wres na dŵr poeth ar unrhyw adeg, ond ni allai ddarparu tystiolaeth i gefnogi hyn.
45. Cadarnhaodd y Gymdeithas ei bod yn ymwybodol bod Mr B wedi dweud ym mis Medi 2022 ei fod yn anabl, a’i bod hefyd yn ymwybodol ei fod yn fregus.
46. Pan ofynnwyd iddi, gwrthododd y Gymdeithas ddarparu copïau neu drawsgrifiadau o geisiadau a wnaed gan Mr a Mrs B i atgyweirio. Dywedodd y byddai’r rhain yn cymryd cryn dipyn o amser ac adnoddau i’w darparu.
47. Ar ôl i mi ddechrau’r ymchwiliad hwn, cysylltodd y Gymdeithas â Mr B a chynnig taliad o £1,500 iddo. Roedd hyn yn cynnwys costau a ysgwyddwyd gan Mr B i addurno’r cyntedd, y grisiau a’r landin, taliad am fethu apwyntiadau a thaliad o £300 i gydnabod yr anhwylustod a ddioddefodd.
48. O ran y ddau ymateb Cam 1 a anfonwyd at Mr B, dywedodd y Gymdeithas ei bod yn ymddangos bod y Swyddog Ymchwilio wedi rhoi’r ymateb terfynol y tu allan i’r broses gwyno arferol. O’r herwydd, nid oedd y Tîm Cwynion yn ymwybodol bod ymateb Cam 1 diwygiedig wedi cael ei anfon.
a) A ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni yng nghartref Mr B rhwng 2016 a mis Mai 2023.
49. Darparodd Mr B gopi o lythyr gan y Gymdeithas yn ei hysbysu y byddai gwaith i atgyweirio ei do yn cael ei wneud ym mis Medi 2016. Mae hynny’n golygu, pan gafodd to Mr B ei atgyweirio’n llwyddiannus o’r diwedd ym mis Mai 2023 ei fod wedi bod yn gollwng yn ysbeidiol am bron i 7 mlynedd. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid wneud gwaith atgyweirio o fewn amser rhesymol ac i safon resymol. Ni wnaed hyn yn achos Mr B. Mae hefyd yn llawer uwch na’r targed o 7 diwrnod gwaith yn y Polisi Atgyweirio ar gyfer atgyweirio to.
50. Ym mis Medi 2022, canfu archwiliad o gartref Mr B broblemau clir o ran lleithder a llwydni. Ymatebodd y Gymdeithas i hyn drwy archwilio’r wal geudod, ond ni ddangosodd hynny beth oedd y rheswm dros y broblem. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y Gymdeithas wedi gweithredu ymhellach ar ôl yr archwiliad hwn i weld beth oedd yr achos. Parhaodd Mr B i roi gwybod am broblemau gyda lleithder a llwydni dros y 2 flynedd ganlynol.
51. Nid oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau am leithder a llwydni yng nghartref Mr B. Pan roddodd Mr B wybod i’r Gymdeithas am y problemau, ni chawsant sylw yn unol â pholisïau a chanllawiau perthnasol. Mae’r rhain yn fethiannau ac yn anghyfiawnder i Mr B. Yn ogystal ag achosi poen meddwl iddo, roedd y methiannau hyn yn golygu ei fod wedi byw mewn cartref lle’r oedd gwaith atgyweirio heb ei wneud am bron i 7 mlynedd. Yn unol â hynny, rwy’n cadarnhau cwyn Mr B.
b) A ymatebodd y Gymdeithas yn briodol i adroddiadau bod boeler wedi torri yng nghartref Mr B rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ebrill 2024.
52. Dywedodd y Gymdeithas fod y gwaith atgyweirio ar y boeler wedi cael ei wneud o fewn yr amserlenni a nodir yn ei pholisi atgyweirio. Roedd Mr B wedi dweud bod problem gyda’i foeler ar 17 Ionawr 2024. Ar 3 Chwefror, nodwyd bod problem gyda’r falf ynysu, a oedd yn gollwng. Disgrifiodd y Gymdeithas y gwaith atgyweirio fel gwaith brys. Mae’r Polisi Atgyweirio yn datgan bod pibell ddŵr neu bibell wresogi’n gollwng yn waith atgyweirio brys y dylid ei gwblhau o fewn 24 awr. Er gwaethaf hyn, o’r diwedd, trefnwyd apwyntiad i atgyweirio’r boeler ar gyfer 10 Mai, dros 3 mis ar ôl canfod y nam.
53. Mae’n destun pryder i mi y byddai’r oedi cyn gwneud y gwaith atgyweirio wedi bod hyd yn oed yn fwy pe na bai Mrs B wedi cwyno i’r Gymdeithas. Mae hwn yn fethiant difrifol. Ni ddylai preswylwyr orfod gwneud cwynion i’w landlord er mwyn i atgyweiriadau brys gael eu gwneud. Ar ôl i Mrs B gwyno, cafodd y gwaith atgyweirio ei gwblhau y diwrnod canlynol, sy’n dangos nad oedd hwn yn fater cymhleth ac y gallai fod wedi cael ei ddatrys yn gynt o lawer.
54. Mae Mr B wedi dweud bod cyfnodau pan gafodd ei adael heb wres wrth aros i’r boeler gael ei atgyweirio. Roedd y Gymdeithas yn dweud nad yw hyn yn wir. Gan nad yw’r Gymdeithas wedi darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad ac nad yw wedi darparu trawsgrifiadau o’r ceisiadau atgyweirio, rwyf wedi fy argyhoeddi bod cyfrif Mr B yn gredadwy. O’r cofnodion sydd ar gael gan y Gymdeithas, maent yn cefnogi cyfrif Mr B oherwydd maent yn cyfeirio at golli gwasgedd, a falf yn gollwng – sy’n gallu lleihau effeithlonrwydd boeler ac yn gallu gwneud iddo gau i lawr. Ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, rwyf felly’n fodlon bod Mr B wedi cael ei adael heb wres yn ystod y cyfnod hwn.
55. Yn ystod y cyfnod yr oedd disgwyl i’r boeler gael ei atgyweirio, nid oedd Mr B yn gallu cynhesu ei gartref i lefel gyfforddus. Mae hyn yn groes i Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae hefyd yn groes i ofynion y Ddeddf gan na wnaethpwyd atgyweiriadau o fewn amser rhesymol. Ni wnaeth y Gymdeithas ymateb yn briodol i adroddiadau bod boeler wedi torri yng nghartref Mr B ac ni chadwodd at ei pholisi atgyweirio. Mae hwn yn fethiant a achosodd anghyfiawnder i Mr B oherwydd nad oedd yn gallu gwresogi ei gartref yn ddigonol. Yn unol â hynny, rwy’n cadarnhau ei gŵyn.
56. Er nad oedd yn fater a nodwyd yn benodol ar gyfer ymchwiliad, mae gennyf hefyd bryderon ynghylch y ffordd yr oedd y Gymdeithas wedi ymateb i gŵyn Mr B.
57. Daeth yr ymateb i’r gŵyn a anfonodd y Gymdeithas at Mr B ym mis Tachwedd 2023 i’r casgliad bod y to wedi bod yn gollwng ers mis Gorffennaf 2020 gan mai dyna’r cofnod cyntaf o broblem gyda’r to a oedd ganddi. Fodd bynnag, mae Mr B wedi darparu llythyr i’m swyddfa o 2016 yn cyfeirio at atgyweirio’r to.
58. Ni allaf ond dyfalu bod y Gymdeithas wedi datgan yn anghywir bod yr adroddiad cyntaf yn ymwneud â’r to ym mis Gorffennaf 2020 oherwydd ei fod wedi newid ei system atgyweirio ym mis Mehefin 2020 ac nid oedd bellach yn gallu cael gafael ar wybodaeth o’r hen system. Mae hyn yn golled sylweddol o wybodaeth, sy’n amlwg wedi effeithio ar yr ymchwiliad i gŵyn Mr B. Mae hefyd yn groes i ddogfen fy swyddfa, “Materion yn ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda”, gan ei fod yn golygu nad oedd cofnodion yn cael eu cadw nac ar gael i’w gweld. Ar ben hynny, roedd colli’r wybodaeth a oedd yn cael ei chadw ar y system flaenorol yn golygu nad oedd gan y Gymdeithas unrhyw ffordd o sefydlu pa waith yr oedd wedi’i wneud yn flaenorol ar eiddo Mr B.
59. O ran rheoli cofnodion, rwyf hefyd yn bryderus bod y Gymdeithas wedi methu darparu copi o’r ymateb Cam 1 terfynol diwygiedig a anfonwyd at Mr B, gan ddarparu fersiwn gynharach yn lle hynny a oedd yn cynnwys canlyniad gwahanol. Mae’r methiant hwn i gadw cofnodion cywir yn ddifrifol, ac yn groes i’r “Egwyddorion Gweinyddu Da” a gyhoeddwyd gan fy swyddfa.
60. Mae hyn yn cael ei waethygu ymhellach gan nad oedd yr ymateb Cam 2 yn cyd-fynd â’r ymateb Cam 1 diwygiedig a gafodd Mr B. Roedd yr ymateb Cam 2 yn cyfeirio at elfennau o gŵyn Mr B a gadarnhawyd yng Ngham 1 fel rhai nad oedd wedi eu cadarnhau, ac yn nodi nad oedd problem gyda’r to. Mae camgymeriad mor sylfaenol yn bwrw amheuaeth ar ddibynadwyedd ymchwiliad Cam 2 ac mae’n ddealladwy bod hyn wedi peri dryswch a gofid i Mr B.
61. Mae’r ymchwiliad hwn wedi canfod problemau systemig posibl gyda gwasanaeth atgyweirio’r Gymdeithas. Roedd yr ymateb i’r gŵyn a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 yn cydnabod bod to Mr B yn gollwng ers bron i 3 blynedd cyn iddo gael ei atgyweirio. Mae’r ymchwiliad hwn wedi canfod ei bod wedi cymryd bron i 7 mlynedd i gwblhau’r gwaith atgyweirio. Nid yw’r Gymdeithas wedi rhoi esboniad pam na chafodd y mater hwn ei ddatrys yn gynt, er bod Mr B wedi gwneud llawer o geisiadau am atgyweirio. Nid yw ychwaith wedi gallu manylu ar yr hyn a arweiniodd yn y pen draw at wneud gwaith atgyweirio llwyddiannus. O’r herwydd, rwy’n bryderus nad oes gwersi wedi cael eu dysgu o’r achos hwn, ac y gallai methiannau o’r fath ddigwydd eto.
62. Mae’r materion a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad hwn yn arwyddocaol. Nid aeth gweithwyr y Gymdeithas i gartref Mr B i archwilio ei do. Defnyddiwyd ffotograffau o ymweliad blaenorol i gefnogi’r honiad anghywir eu bod wedi gwneud hynny. Pe bai’r archwiliad wedi mynd rhagddo, mae’n bosibl y byddai’r broblem gyda tho Mr B wedi dod i’r amlwg ym mis Hydref 2022. Yn hytrach, bu’n rhaid i Mr B ddioddef gaeaf arall gyda tho diffygiol a oedd yn achosi lleithder a llwydni yn ei gartref.
63. Roedd anallu’r Gymdeithas i gael gafael ar gofnodion o’r system atgyweirio a ddatgomisiynwyd ym mis Mehefin 2020 yn amlwg yn llesteirio’r ymchwiliad i gŵyn Mr B. Mae’n destun pryder i mi y gallai achwynwyr eraill fod wedi bod dan anfantais yn yr un modd. Mae’r ffaith bod y Gymdeithas wedi methu darparu copïau o’r cwynion a wnaed gan Mr a Mrs B hefyd yn codi cwestiynau ynghylch pa mor drylwyr yr ymchwilir i gwynion gan nad yw’r wybodaeth ar gael yn rhwydd.
64. Nid yw’r Gymdeithas wedi darparu copi o’r ymateb diwygiedig i’r gŵyn a anfonwyd at Mr B, nac unrhyw gofnodion eraill o Mr B yn cysylltu â’r Gymdeithas yn dilyn yr ymateb cyntaf a’r ymweliad dilynol â’i gartref gan y Swyddog Ymchwilio. Nid yw ychwaith wedi darparu gohebiaeth arall, y mae gan Mr B gopïau ohoni, sy’n ymwneud ag atgyweiriadau yn ei gartref, er bod fy Swyddog Ymchwilio wedi gofyn amdani. Mae hyn yn awgrymu naill ai bod diffygion difrifol o ran cadw cofnodion gan y Gymdeithas neu fod gwybodaeth wedi cael ei dal yn ôl yn fwriadol. Er bod gennyf bwerau statudol i fynnu bod dogfennau sy’n berthnasol i ymchwiliad yn cael eu cyflwyno, gan fy mod yn gallu dod i gasgliadau ar sail y wybodaeth sydd ar gael, nid oeddwn o’r farn bod hyn yn angenrheidiol nac yn gymesur yn yr achos hwn. Fodd bynnag, rwyf yn disgwyl i’r Gymdeithas fod yn gwbl agored a thryloyw wrth ddelio â’m swyddfa.
65. Rwyf hefyd o’r farn bod y methiannau a nodwyd yn yr achos hwn yn rhai y gall sefydliadau eraill ddysgu ohonynt. Mae’r ymchwiliad hwn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadw cofnodion llawn a chywir. Collwyd llawer o gyfleoedd i nodi’r ceisiadau i atgyweirio a wnaed dro ar ôl tro gan Mr B, ac roedd methiannau i fynd i’r afael â’r rhain. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y Gymdeithas wedi ystyried anghenion Mr B mewn perthynas â’i anabledd, na bod ganddi bolisi ynghylch ceisiadau atgyweirio gan aelwydydd sy’n cynnwys pobl agored i niwed. Am y rhesymau hyn rwyf o’r farn bod yr adroddiad hwn o ddiddordeb ehangach i’r cyhoedd.
66. Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, barchu cartrefi a bywydau teuluol unigolion. Mae parch yn cynnwys sicrhau bod cartrefi’n cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da, a gwrando a chymryd camau priodol pan fydd problemau’n codi. Rwyf o’r farn bod Erthygl 8 yn berthnasol i amgylchiadau’r gŵyn hon, gan nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i adroddiadau atgyweirio Mr B. O’r herwydd, cododd sefyllfa lle gallai hawl Mr B i barch tuag at ei gartref a’i fywyd teuluol fod wedi cael ei rhoi yn y fantol.
67. Mae’r Gymdeithas wedi cydnabod bod Mr B wedi dweud ym mis Medi 2022 fod ganddo anabledd. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod manylion hyn, na’r effaith ar Mr B, wedi cael eu cofnodi ar y pryd. Nid yw’r Gymdeithas wedi dangos ei bod wedi ystyried sut y gallai fod angen iddi addasu’r gwasanaeth a ddarparwyd i Mr B yng ngoleuni hyn, fel a oedd y gwres yn ei gartref yn ddigonol ar gyfer ei anghenion. Nid fy lle i yw gwneud penderfyniad pendant ynghylch a yw corff wedi cydymffurfio â thelerau’r Ddeddf Cydraddoldeb, ond gallaf ystyried a yw sefydliad wedi rhoi sylw dyledus i’w rwymedigaethau. Mae’r methiant i ystyried anghenion Mr B yn awgrymu ei bod yn bosibl nad yw’r Gymdeithas wedi rhoi sylw dyledus i’w dyletswyddau o dan y Ddeddf.
68. Rwy’n argymell y dylai’r Gymdeithas wneud y canlynol o fewn 1 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn:
a) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cydnabod y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac wedi ymddiheuro i Mr B amdanynt.
b) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi cynnig iawndal ariannol o £625 i Mr B am y poen meddwl a achoswyd iddo gan y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Mae hyn yn ychwanegol at y £375 a ddarparwyd eisoes, sy’n rhoi cyfanswm o £1,000 o iawndal ariannol. Nid wyf wedi ystyried iawndal am y costau a ddaeth i ran Mr B gan fod y Gymdeithas wedi rhoi sylw i hyn yn barod.
69. Rwy’n argymell y dylai’r Gymdeithas wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn:
c) Sicrhau bod yr holl staff perthnasol yn cael hyfforddiant i adnabod cwsmeriaid agored i niwed ac ymateb iddynt mewn ffordd briodol.
ch) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi datblygu a chyflwyno gweithdrefn lleithder a llwydni.
d) Sicrhau bod rhaglen hyfforddi sy’n seiliedig ar senarios yn cael ei darparu i’r holl staff perthnasol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r achos hwn a bod staff yn ystyried amgylchiadau unigol wrth flaenoriaethu gwaith atgyweirio.
dd) Darparu tystiolaeth bod y Gymdeithas wedi datblygu a chyflwyno proses i sicrhau bod ceisiadau sy’n cael eu gwneud dro ar ôl tro am atgyweirio yn cael eu nodi, eu cofnodi a’u huwchgyfeirio ar gyfer ymchwiliad pellach.
e) Adolygu ei phroses rheoli cofnodion a gwneud newidiadau angenrheidiol i sicrhau ei bod yn cydymffurfio ag egwyddorion “Materion yn ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda”.
f) Rhannu copi o’r adroddiad hwn gyda Phwyllgor Sicrwydd y Gymdeithas, a ddylai oruchwylio a monitro cydymffurfiad y Gymdeithas â’r argymhellion hyn.
70. Rwy’n falch o nodi bod Trivallis, wrth gyflwyno sylwadau ar fersiwn ddrafft yr adroddiad hwn, wedi cytuno i roi’r argymhellion hyn ar waith.
Michelle Morris
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
23 Hydref 2025