Dyddiad yr Adroddiad

29/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Amrywiol Eraill

Cyfeirnod Achos

202504422

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi methu ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddynt ym mis Ebrill 2025.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu cofnodi cwyn Mr A, gan achosi rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am fethu cofnodi ei gŵyn, i esbonio’r rhesymau dros y methiant hwn, a chyflwyno ymateb cwyn Cam 2 iddo o fewn 4 wythnos.