Dyddiad yr Adroddiad

30/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202504313

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd tua 18 mis yn ôl.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon bod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, o fewn 30 diwrnod, a chynnig taliad iawndal ariannol o £200 fel cydnabyddiaeth o’r oediadau a darparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn.