Dyddiad yr Adroddiad

18/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202504275

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs K bod Cyngor Caerdydd wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Ebrill 2025.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu trosglwyddo’r gŵyn ymlaen ar gyfer ystyriaeth ffurfiol o dan eu proses gwyno. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs K. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gofnodi’r gŵyn yn ffurfiol ac i ysgrifennu at Mrs K, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro ac esbonio’r esgeulustod. Cadarnhau bod y gŵyn cael ei hystyried yn ffurfiol a chynnig taliad iawndal ariannol o £100.