Cwynodd Mr A bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ystyried ei gŵyn bod aelod o staff ITS wedi cynnig ei gynorthwyo gyda’i gais DVLA ond nad oeddynt wedi gwneud hynny.
Canfu’r Ombwdsmon, yn dilyn ymateb cychwynnol y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn lle dywedodd nad oedd unrhyw drafodaeth am gais DVLA wedi digwydd, fod Mr A wedi anfon gwybodaeth bellach ato drwy e-bost. Methodd y Bwrdd Iechyd ag ymateb i wybodaeth bellach Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A am fethu ag ymateb yn briodol i’r wybodaeth bellach a ddarparodd, ac i anfon ymateb pellach i’w gŵyn ato o fewn 4 wythnos.