Dyddiad yr Adroddiad

10/09/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202503427

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X bod Practis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddynt ym mis Gorffennaf 2024 ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar fam.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn i’r Practis ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod yr oedi wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X. Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi ysgrifennu at Ms X ym mis Awst 2025 a’u bod wedi ymddiheuro iddi am yr oedi ac wedi darparu esboniad am hyn mewn llythyr. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i gyflwyno ymateb i’r gŵyn a chynnig taliad iawndal o £250 i Ms X i gydnabod yr oedi sylweddol cyn cyflwyno’r ymateb o fewn 6 wythnos.