Cwynodd Ms A bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi asesu ac yna rhyddhau ei mab o’r llwybr niwroddatblygiad. Dywedodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i bob un o’r pryderon a gododd yn ei chwyn wreiddiol.
Er i’r Ombwdsmon nodi bod mab Ms A wedi’i ryddhau o’r llwybr niwroddatblygiad, roedd gwybodaeth bellach a dderbyniwyd yn cadarnhau bod mab Ms A yn y broses o gael ei asesu eto. Felly, penderfynwyd na ddylid ymchwilio i’r mater hwn. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb llawn i’r gŵyn a gyflwynwyd gan Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A, o fewn 1 mis, a darparu ymateb wedi’i ddiweddaru i’w chwyn gan fynd i’r afael â’r pryderon nad oedd wedi ymateb iddynt yn ei chwyn a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2025.