Dyddiad yr Adroddiad

19/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol yn yr ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502884

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am gamweithrediad offer (datgysylltiad canwla) yn ystod llawdriniaeth ar y llygad a achosodd iddo fod angen triniaeth bellach. Roedd yn pryderu bod ymateb ffurfiol y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am y driniaeth. Nid oedd yn cynnwys unrhyw fanylion penodol am y camau a gymerwyd yn ei achos, nac unrhyw gyfeiriad at gynnwys ei gofnodion meddygol.

Ar ôl ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon y dylai ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn fod wedi bod yn benodol i’r hyn a ddigwyddodd yn achos Mr A ac y dylai fod wedi cyfeirio at gynnwys ei gofnodion meddygol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau canlynol o fewn 4 wythnos:

  • Darparu ymateb pellach i Mr A i’r gŵyn, yn benodol i’r driniaeth fel y’i dogfennwyd yn ei gofnodion clinigol. Dylai hyn gynnwys manylu ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y driniaeth, y camau a gymerwyd i liniaru’r risgiau hysbys a phwy oedd yn bresennol pan gynhaliwyd y driniaeth.