Dyddiad yr Adroddiad

16/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502650

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei gŵr gan y Bwrdd Iechyd yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ac Ysbyty Brenhinol Gwent cyn iddo farw. Yn benodol, roedd Mrs C yn bryderus bod methiant i roi ystyriaeth ddyledus i gyflwr ei afu wedi cyfrannu at ei ddirywiad.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i drefnu cyfarfod cwynion i drafod y pryderon sy’n weddill gan Mrs C yn dilyn ei ymateb ffurfiol i’w chwyn. Fodd bynnag, ymddengys bod oedi heb ei ddatrys wrth drefnu’r cyfarfod felly cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 1 mis, yn:

a) Darparu ymddiheuriad ffurfiol i Mrs C am yr oedi cyn cysylltu â’i heiriolwr i drefnu cyfarfod cwyno.

b) Cysylltu ag eiriolwr Mrs C i gadarnhau amser a dyddiad ar gyfer cyfarfod cwynion gyda chynrychiolwyr priodol y Bwrdd Iechyd a fydd yn gallu ateb yr ymholiadau sy’n weddill a ddarparwyd i’r Bwrdd Iechyd ar 1 Gorffennaf. Dylai’r dyddiadau a gynigir fod cyn gynted â phosibl ac o fewn 6 wythnos.

Ystyriodd yr Ombwdsmon y gallai’r camau gweithredu uchod helpu i ddatrys cwynion Mrs C, ac felly setlodd y gŵyn ar y sail hon, heb ymchwiliad.