Cwynodd Mr K bod Cyngor Gwynedd wedi methu ymchwilio yn ffurfiol i gwynion lluosog a gododd ynglŷn â methiannau i gasglu gwastraff.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu mynd i’r afael yn briodol â’r cwynion a godwyd gan Mr K. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr K. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gofnodi cwyn ffurfiol ar Gam 2, ysgrifennu at Mr K o fewn 1 wythnos, i ymddiheuro a chyflwyno eu hymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos. Cytunodd hefyd i gynnig taliad iawn ariannol o £150.