Dyddiad yr Adroddiad

11/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502412

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr D bod Practis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ymateb i gŵyn a gododd ym mis Gorffennaf 2024.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Practis wedi methu cyflwyno ymateb ffurfiol i’r gŵyn hyd at ymyrraeth ei swyddfa yn Awst 2025. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Practis i ysgrifennu at Mr D, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi a chynnig taliad iawn o £150.