Cwynodd Mrs A ynglŷn â Gwasanaethau Iechyd Meddwl y Bwrdd Iechyd a’r methiant i ddarparu cymorth i’w mab yn ystod argyfwng iechyd meddwl. Roedd Mrs A yn anfodlon gydag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chwyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr ymateb i’r gŵyn yn mynd i’r afael â phryderon Mrs A yn ddigonol. Gallai’r Bwrdd Iechyd fod wedi, fel rhan o’u hymchwiliad i’w chwyn, ofyn am gydsyniad y claf er mwyn darparu ymateb mwy manwl. Achosodd hyn anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i geisio cysyniad y claf o fewn 6 wythnos a darparu ymateb pellach, mwy manwl i gŵyn Mrs A gan fynd i’r afael â phob un o’i phryderon.