Cwynodd Mr A ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Bractis Meddygon Teulu, a oedd yn cael ei rheoli gan y Bwrdd Iechyd.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio ac ymateb yn ddigonol i gwynion Mr A ynglŷn â phresgripsiynau, ceisiadau am apwyntiadau, adolygiadau o feddyginiaeth a chyfathrebu. Fodd bynnag, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i’w gŵyn ynglŷn â chanlyniadau annormal prawf gwaed. Roedd yr ymateb a ddarparwyd gan y Practis Meddygon Teulu yn fyr ac nid oedd yn mynd i’r afael â’r pryderon yr oedd Mr A wedi’u codi. Roedd hyn wedi peri anghyfleustra i Mr A ac wedi achosi gofid a rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 6 wythnos, yn ymchwilio i bryderon Mr A mewn perthynas â chanlyniadau annormal y profion gwaed, darparu ymateb ffurfiol iddo i’w gŵyn, a darparu ymddiheuriad ysgrifenedig am y methiant i ymchwilio i’w gŵyn.