Cwynodd Ms A na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ei hysbysu y gallai fod yn anodd iddi ddod oddi ar feddyginiaeth gwrthiselyddion, gyda sgil-effeithiau anodd posibl.
Penderfynodd yr Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal trafodaethau gyda Ms A ynglŷn â’r anawsterau o ddod oddi ar y feddyginiaeth. Fodd bynnag, roedd y trafodaethau hyn wedi’u cynnal ar ôl iddi ddechrau cymryd y feddyginiaeth. Ni wnaeth ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn fynd i’r afael â’r pryder nad oedd unrhyw sgyrsiau wedi’u cynnal cyn i’r feddyginiaeth gael ei rhagnodi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A o fewn 1 mis a darparu ymateb wedi’i ddiweddaru i’w chwyn gan fynd i’r afael â’i phryder na chafodd ei hysbysu am yr anawsterau o ddod oddi ar y feddyginiaeth cyn iddi ddechrau ei chymryd.