Dyddiad yr Adroddiad

10/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont

Pwnc

Materion cynllunio eraill

Cyfeirnod Achos

202502338

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C na ddilynodd Cyngor Cymunedol Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont y gweithdrefnau cywir pan dynnodd ei gefnogaeth yn ôl i gais cynllunio, ac ni ddarparodd ymateb priodol i’w gwynion.

Penderfynodd yr Ombwdsmon bod y Cyngor wedi gwneud ei benderfyniad heb roi cyfle i Mr C gyflwyno sylwadau, ac nad oedd wedi cydnabod ei fod wedi cael ei gamarwain. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd gan y Cyngor weithdrefn gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr C i ymddiheuro am y gwallau gweithdrefnol, cyhoeddi gweithdrefn gwyno a rhoi canllawiau i Gynghorwyr o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Cyngor hefyd i sicrhau bod pob Aelod wedi cael yr hyfforddiant gofynnol diweddaraf, o fewn 3 mis.