Cwynodd Ms C ar ran Mr A, nad oedd Hedyn wedi atgyweirio gollyngiad yn nho eiddo Mr A am ddwy flynedd, gan achosi problemau llwydni a lleithder.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Gymdeithas Tai wedi cau cwyn Ms C fel cwyn a oedd wedi’i ‘datrys’ er na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu. Nododd tri archwiliad bod angen gwneud gwaith i atgyweirio’r to ond ni chynhaliwyd unrhyw atgyweiriadau nes i’r Ombwdsmon gysylltu â’r Gymdeithas Tai. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ysgrifennu at Ms C a Mr A o fewn un mis i ymddiheuro am yr oedi gyda’r gwaith atgyweirio a’r driniaeth wael o’r gŵyn, a thalu £600 i Mr A i gydnabod y difrod a’r anghyfleustra a brofodd. Cytunodd y Gymdeithas Tai hefyd i gael gwared ar y llwydni a’r lleithder mewnol ac adolygu’r ffordd yr aeth i’r afael â’r achos o fewn tri mis.