Cwynodd Miss X bod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu cyflawni gwaith atgyweirio yr oedd wedi cytuno i’w wneud.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Gymdeithas wedi methu sicrhau mynediad i eiddo Miss X i wneud y gwaith atgyweirio. Roedd hefyd wedi methu darparu llythyr apwyntiadau wedi’u trefnu. Creodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gynnig, o fewn 3 wythnos, ymddiheuriad am fethu â darparu cadarnhad o apwyntiadau wedi’u trefnu ac am yr oedi parhaus wrth gwblhau’r gwaith atgyweirio sy’n weddill, cynnig iawndal o £100 am y methiant a’r oedi, a rhoi amserlen glir i Miss X yn manylu pryd y bydd y gwaith sy’n weddill yn cael ei gwblhau.