Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202500828

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A ynglŷn â’r ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â’i chais am dai a’r camau a gymerwyd mewn cysylltiad ag ôl-ddyledion rhent ar eiddo yr oedd wedi’i dderbyn, ond nad oedd wedi byw ynddo.

Canfu’r Ombwdsmon y bu methiannau cyfathrebu, a chyfleoedd i’r Cyngor fod wedi hysbysu Miss A i ddarparu Hysbysiad Ymadael yn gynharach. O ganlyniad, cronnodd Miss A ôl-ddyledion rhent sylweddol. Achosodd hyn straen sylweddol i Ms A ac mae’r materion yn parhau heb eu datrys. Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Cyngor y byddai, o fewn pedair wythnos, yn ailystyried cwyn Miss A ac a ddylai dderbyn y swm llawn o ôl-ddyledion rhent. Cytunwyd hefyd i ddarparu ymateb ffurfiol i gŵyn Miss A, gan fynd i’r afael â phob mater a godwyd gyda’r Cyngor a’r Ombwdsmon.