Dyddiad yr Adroddiad

02/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500761

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am fethiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) i adnabod a thrin ei bradycardia isorweddol pan ymwelodd â’r ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon bod Ms A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd a’i bod wedi cael nifer o sgyrsiau llafar gydag aelodau o staff o’r Tîm Gweithio i Wella. Fodd bynnag, roedd y gŵyn wedi’i chau heb ddarparu ymateb ysgrifenedig i gŵyn Mrs A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis i gyhoeddi’r llythyr penderfyniad yn:

• Darparu ymateb Gweithio i Wella i Ms A i gynnwys esboniad cynhwysfawr pam yr ystyriwyd bod rhai materion y tu allan i’r amser a pham na ddefnyddiwyd disgresiwn i ystyried y gŵyn.

• Darparu esboniad ysgrifenedig ynglŷn ag agwedd cardioleg y gŵyn.