Dyddiad yr Adroddiad

08/09/2025

Achos yn Erbyn

Estyn

Pwnc

Rheoliad ac Arolygiad

Cyfeirnod Achos

202410229

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ynglŷn â’r ffordd yr ymdriniodd Estyn â chwyn a’u hymatebion i’r sylwadau a wnaed gan yr Arolygydd Lleyg yn ystod arolwg o’r ysgol.

Er bod Estyn wedi cadarnhau cwyn Ms A, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd yr ymatebion i’r gŵyn yn gydnaws â’r egwyddorion a nodir yng nghanllawiau’r Ombwdsmon i gyrff yn ei hawdurdodaeth ynghylch gweinyddiaeth dda. Canfu’r Ombwdsmon fod yr ymatebion i’r gŵyn yn rhy gul yn eu pwyslais ac yn rhoi gormod o ffocws ar fwriadau a chymhellion yr Arolygydd Lleyg o ran dehongli ac effaith y sylwadau hynny. Roedd y dull a fabwysiadwyd yn yr ymatebion hefyd yn rhoi’r argraff o ragfarn, hyd yn oed os nad dyna oedd bwriad y Swyddog Ymchwilio Cam 2. Yn ogystal, aeth ymateb cwyn diweddarach yr Ymchwilydd Cam 2 y tu hwnt i’r hyn oedd yn rhesymol ar gyfer ymateb i gŵyn Cam 2 wrth wneud penderfyniad/canfyddiad nad oedd trothwy aflonyddu rhywiol wedi’i gyrraedd.

Fel rhan o setliad datrysiad cynnar, cytunodd Estyn i gymryd rhai camau gweithredu a oedd yn cynnwys ymddiheuriad pellach i Ms A a’r cydweithiwr yr effeithiwyd arnynt; dysgu o’r gŵyn gan gynnwys rhannu cwyn Ms A gyda phanel allanol y mae Estyn yn ei dreialu fel rhan o’u Gweithdrefn Cwynion ddiwygiedig ar gyfer nodi unrhyw bwyntiau dysgu yn ogystal â’u Harweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth; atgoffa eu tîm arolygu a’u harolygwyr lleyg ynghylch pwysigrwydd glynu at god proffesiynol Estyn a Chod Ymddygiad y Gwasanaeth Sifil a darparu hyfforddiant/gwybodaeth bellach i staff ynghylch aflonyddwch rhywiol.