Dyddiad yr Adroddiad

23/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202408802

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B ynghylch y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei gŵr, Mr B, gan y Bwrdd Iechyd mewn cysylltiad â’i anewrysm aortig yn yr abdomen (“AAA,” chwydd yn yr aorta, y rhydweli sy’n cario gwaed o’r galon i’r abdomen). Yn benodol, holodd Mrs B a oedd y gofal, y driniaeth ac yna’r llawdriniaeth a dderbyniodd Mr B yn dilyn sgan ym mis Mehefin 2024, yn briodol ac a ddylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi gweithredu’n fwy cyflym pan gynyddodd ei AAA mewn maint a byrstio’n agored yn y pen draw.

Canfu’r ymchwiliad bod y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd Mr B mewn cysylltiad â’i AAA, yn dilyn ei sgan, yn briodol ac na fu unrhyw fethiant. O ganlyniad, ni chadarnhawyd y gŵyn.