Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202502103

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Rhagfyr 2024.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi diweddariadau rheolaidd i Ms A o gynnydd eu hymchwiliad. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd pellach i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi eu hymateb i’r gŵyn o fewn dwy wythnos.