Dyddiad yr Adroddiad

17/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403506

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr P bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu darparu triniaeth briodol ar gyfer carsinoma celloedd basal o dan ei lygad de (“y CCB”). Cwynodd hefyd, yn dilyn triniaeth lawfeddygol ar y BCC ym mis Chwefror 2023, bod y Bwrdd Iechyd wedi methu gwneud atgyfeiriadau priodol ac amserol ar gyfer ymchwiliad a thriniaeth bellach.
Canfu’r ymchwiliad bod y driniaeth a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r CCB, gan gynnwys y driniaeth lawfeddygol ym mis Chwefror 2023, yn briodol. Nodwyd bod y driniaeth wedi arwain at symptomau gofidus a ddeilliodd o gymhlethdod hysbys a all ddigwydd a pharhau yn dilyn y math o driniaeth a gafodd Mr P. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod clinigwyr y Bwrdd Iechyd wedi gwneud atgyfeiriadau amserol am ofal pellach pan oedd yn briodol. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd y cwynion.