Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202402035

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon yn canolbwyntio ar:
a) Bu oedi diangen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) i drefnu llawdriniaeth Mr A o fis Ionawr 2022 ymlaen.
b) Rhoddodd y Bwrdd Iechyd ddiweddariadau rheolaidd a phriodol i Mr A .
Canfu’r ymchwiliad y bu oedi diangen, yn arbennig yn 2023, o ran y Bwrdd Iechyd yn trefnu llawdriniaeth Mr A. Hyd yn oed wrth ystyried y broses gyfrifyddu/archebu a phrynu estynedig, gan fod y gwneuthurwr a ddewiswyd yn gyflenwr newydd, gallai Mr A fod wedi cael ei lawdriniaeth bron i flwyddyn ynghynt, ac o bosibl hyd yn oed yn gynharach na hyn. Cynhaliwyd llawdriniaeth Mr A ym mis Chwefror 2025 yn y pen draw.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y methiannau a arweiniodd at yr oedi diangen gyda llawdriniaeth Mr A gyfystyr â chamweinyddu ac wedi achosi methiannau gwasanaeth. Arweiniodd yr oedi yn y weithdrefn hefyd at Mr A yn dioddef anghyfiawnder. Cyfeiriodd Mr A at yr effaith arno a oedd yn cynnwys dirywiad yn ei iechyd meddwl. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mr A.
Nododd yr Ombwdsmon fethiannau cyfathrebu ar ran Rheolwr yr Adran berthnasol. O ganlyniad, cafodd hyn effaith niweidiol ar briodoldeb a rheoleidd-dra’r diweddariadau yr oedd y meddyg ymgynghorol a oedd yn trin Mr A a’r ysgrifennydd wedi’u darparu iddo. Yn absenoldeb cyfathrebu i’r gwrthwyneb, eu disgwyliad oedd bod y cais yn cael ei brosesu gan y Rheolwr ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad oedd hyn bob amser yn wir. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y methiannau cyfathrebu unwaith eto yn gamweinyddiaeth ac wedi cyfrannu at fethiannau gwasanaeth a achosodd anghyfiawnder i Mr A. Mae hyn oherwydd ei fod yn ychwanegu at rwystredigaeth Mr A a’i iechyd meddwl yn dirywio, y cyfeiriodd ato. Cadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Mr A hefyd.
Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon a oedd yn cynnwys gwneud ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr A a thaliad iawndal ariannol o £750. Roedd y taliad hwn yn gydnabyddiaeth o’r trallod a’r rhwystredigaeth a achoswyd i Mr A oherwydd yr oedi diangen a arweiniodd at y trefniadau ar gyfer llawdriniaeth Mr A yn cymryd mwy o amser nag y gallent fod wedi’i gymryd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i adolygu eu proses ar gyfer hwyluso archebion yn y tîm adrannol perthnasol i fodloni eu hunain bod digon o brosesau monitro ar waith i sicrhau trefniadau/cwblhau archebion yn amserol.