Dyddiad yr Adroddiad

22/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401484

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd Cyntaf”) rhwng 18 a 22 Mawrth 2023. Roedd ei phryderon yn cynnwys oedi wrth roi meddyginiaeth reolaidd i Mrs A cyn y Mewnblaniad Falf Aorta drwy Gathetr (“TAVI” – gweithdrefn sy’n gwella llif y gwaed yn y galon drwy osod falf aorta newydd) rhwng 18 a 22 Mawrth 2023. Roedd wedi cwestiynu a oedd Mrs A yn ddigon ffit i fynd drwy weithdrefn TAVI ar 22 Mawrth 2023 ac a wnaeth y TAVI arwain at Mrs A yn datblygu llid y pancreas.

Cwynodd Mrs C hefyd ynghylch y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd Mrs A gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“yr Ail Fwrdd Iechyd”) ac a gollwyd cyfle i drin Mrs A am sepsis (adwaith difrifol i haint sy’n peryglu bywyd) yn ystod ei harhosiad yn yr ysbyty rhwng 28 Ebrill 2023 a 6 Mai 2023.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, mewn cysylltiad â’r Bwrdd Iechyd Cyntaf, er y bu oedi wrth roi meddyginiaeth i Mrs A, ei bod wedi derbyn y feddyginiaeth briodol ac ni chafodd unrhyw oedi unrhyw effaith sylweddol ar ei gofal. Canfu’r ymchwiliad hefyd bod Mrs A yn ddigon ffit i dderbyn y weithdrefn TAVI ac nad oedd unrhyw gysylltiad achosol rhwng y weithdrefn TAVI a datblygiad llid y pancreas Mrs A. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs C.

O ran yr Ail Fwrdd Iechyd, canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o gyfle a gollwyd i drin Mrs A ar gyfer sepsis rhwng 28 Ebrill a 6 Mai 2023. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.