Y gŵyn
Lansiom ymchwiliad ar ôl i Ms A gwyno ar ran saith achwynydd, pob un ohonynt â phlant sy’n oedolion a oedd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth. Dywedodd yr achwynwyr fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer eu gofal ar ôl i’r gwasanaeth ddod i ben, ac nad oedd cynllun clir o hyd i ddiwallu anghenion cleifion epilepsi AD o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae gan lawer o’r cleifion hyn anghenion cymhleth lluosog ac maent mewn perygl uwch o Farwolaeth Annisgwyl Sydyn mewn Epilepsi (SUDEP).
Yr hyn a ganfuom
Canfuom nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi adolygu anghenion cleifion mewn modd amserol, ac nid oedd wedi darparu darpariaeth amgen ddigonol ychwaith, pan ddaeth ei Wasanaeth Epilepsi AD i ben ym mis Mehefin 2021. Gadawyd cleifion ag anghenion cymhleth heb ddarpariaeth gofal glir ar waith.
Rhoddodd y diffyg gwasanaeth a’r cyfathrebu gwael hwn bwysau sylweddol ar ofalwyr a staff gofal iechyd. Mae nifer o gleifion bellach yn cael gofal arbenigol y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd oherwydd diffyg gwasanaeth lleol.
Er i’r Bwrdd Iechyd gomisiynu Adolygiad Allanol, araf fu’r cynnydd tuag at weithredu ei argymhellion. Bedair blynedd yn ddiweddarach, nid oes llwybr clir a hygyrch o hyd i sicrhau bod anghenion y grŵp hwn sy’n agored i niwed yn cael eu diwallu, ac nid yw’r ddarpariaeth bresennol yn ymddangos yn gydlynol.
Yn 2021, cyhoeddom adroddiad cyhoeddus yn erbyn y Bwrdd Iechyd am fater tebyg o gynllunio gwasanaethau yn wael a’r methiant i gymryd camau prydlon i wneud trefniadau i ddiwallu anghenion clinigol cleifion pan fydd gwasanaeth yn dod i ben.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r diffyg darpariaeth gwasanaeth, cyfathrebu gwael, ac ymateb araf i gwynion wedi achosi gofid sylweddol i’r saith achwynydd. Mae’r gofalwyr wedi disgrifio teimlo bod y bwrdd iechyd wedi troi eu cefn arnynt a’u gadael heb gefnogaeth, ac yn ansicr gyda phwy i gysylltu â nhw i gael cyngor neu gymorth, wrth iddynt orfod ymrafael â phroses gwyno hir heb ganlyniad clir.
Mae rôl gofalwr eisoes yn un anodd, ac mae cael gwared yn sydyn â system gymorth allweddol wedi ychwanegu at eu straen. Mae hyn yn cynrychioli anghyfiawnder difrifol i gleifion a’u teuluoedd, ac rwy’n ymwybodol y gallai eraill fod yn profi methiannau tebyg. Rhaid i’r Bwrdd Iechyd gymryd camau brys nawr i sicrhau bod y cleifion hyn sy’n agored i niwed a’u gofalwyr yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Ein hargymhellion
Gwnaethom nifer o argymhellion, a derbyniwyd pob un ohonynt gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Cymryd camau dybryd i fwrw ymlaen â’i gynlluniau i weithredu llwybr gofal epilepsi AD clir a hygyrch i sicrhau y gall pob claf gael mynediad at ofal sy’n addas i’w hanghenion. Dylai’r Bwrdd Iechyd gael adolygiad clinigol proffesiynol allanol i wirio bod y llwybr a’r darpariaethau arfaethedig yn ddigonol.
- Gosod amserlenni clir ar gyfer pob cynllun gweithredu, gyda goruchwyliaeth y Bwrdd i fonitro cynnydd.
- Ymddiheuro i’r saith achwynydd am y cyfathrebu gwael a’r diffyg darpariaeth amgen arbenigol yn dilyn terfynu’r Gwasanaeth Epilepsi AD.
- Rhoi diweddariadau manwl i bob un o’r saith achwynydd ar ofal cyfredol eu perthnasau, gan gynnwys cyfrifoldebau dros fonitro, adolygiadau gofal, cynlluniau risg, a phwyntiau cyswllt.
- Adolygu’r holl rhestrau o gleifion epilepsi AD i gadarnhau bod cynlluniau gofal, asesiadau risg, a chynlluniau meddyginiaeth frys yn gyfredol, gan sicrhau nad oes unrhyw glaf yn cael ei esgeuluso nac yn aros am apwyntiadau niwroleg, gyda goruchwyliaeth y Bwrdd o’r archwiliad.