Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Treffynnon

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202309254

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Treffynnon (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).  Pan oedd yr Achwynydd a chydnabod (“y cydnabod”) yn ceisio casglu eitemau personol yr Achwynydd o Amgueddfa (“yr Amgueddfa”) yn 2023, honnwyd bod yr Aelod wedi eu cam-drin yn eiriol, cyn iddo fynd ati’n rymus i wthio’r cydnabod at y drws a’i gwthio allan at y grisiau.  Dywedwyd bod y cydnabod wedi disgyn ar waelod grisiau’r Amgueddfa.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor.  Cofnododd yr Achwynydd a’r cydnabod eu hatgofion yn ysgrifenedig.  Cafodd y tyst ei gyfweld.  Cafwyd gwybodaeth gan yr Heddlu (“yr Heddlu”).

Gan ystyried ffactorau fel y cyfrifon anghyson a gafwyd gan y rhai dan sylw, treigl amser ac absenoldeb tystion annibynnol ategol neu dystiolaeth uniongyrchol i gadarnhau’r honiadau o ymddygiad difrïol, (a oedd yn gallu effeithio ar ei rôl fel cynghorydd y Cyngor ei hun), neu fod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol, nid oedd yn bosib i’r Ombwdsmon ddod i farn na phenderfyniad cytbwys ynghylch a oedd y Cod wedi cael ei dorri.

O dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai parhau â’r ymchwiliad yn gymesur nac er budd y cyhoedd.  Felly, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.