Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202207114

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr Aelod wedi bwlio ac aflonyddu ar swyddogion y Cyngor gan wneud y canlynol:

  • Gwneud cwynion ffug, di-sail a maleisus yn erbyn y swyddogion;
  • Gwneud datganiadau ffug yng nghyfarfodydd y Cyngor, mewn negeseuon e-bost a anfonir ac mewn dogfennau a rennir, wrth weithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod;
  • Camddefnyddio ei sefyllfa i gael mynediad at wybodaeth a dogfennau personol.

Honnwyd hefyd bod yr Aelod wedi gwneud y canlynol:

  • Datgelu gwybodaeth gyfrinachol i aelodau’r Cyngor ac i aelodau’r cyhoedd;
  • Methu â datgelu buddiant personol a rhagfarnus yng nghyfarfodydd y Cyngor.

Cafwyd gwybodaeth yn ystod yr ymchwiliad gan y Cyngor ac Archwilio Cymru.  Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld.  Cafodd yr Aelod hefyd ei gyfweld.

Mae natur yr honiadau a wnaed yn erbyn yr Aelod yn ddifrifol; yn gyffredinol, cymerodd ran mewn ymddygiad amharchus parhaus dros gyfnod hir, a arweiniodd yn y pen draw at gyhuddiad a oedd yn awgrymu amhriodoldeb ar ran swyddogion y Cyngor.

Ystyriwyd bod ymddygiad amharchus yr Aelod yn debygol o effeithio ar y swyddogion a oedd yn ymwneud â’r broses o baratoi’r cyfrifon, yn ogystal â’r Cyngor ac Archwilio Cymru, a bod defnydd anghyfrifol o iaith yr Aelod at swyddogion ar un achlysur yn dangos ymddygiad a oedd yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ystyried yn her resymol, i’r graddau y mae’n awgrymu bod paragraff 4(b) o’r Cod wedi’i dorri.

Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi elwa’n bersonol o unrhyw un o’i weithredoedd, ac nid oedd yn amlwg ei fod wedi camddefnyddio ei sefyllfa er ei fudd personol.

Roedd gan y Cyngor hanes gwael o ran rheoli arian a nododd Archwilio Cymru nifer o faterion yn ymwneud â’r cyfrifon yr oedd yr Aelod yn poeni amdanynt.  Er nad yw hyn yn cyfiawnhau’r ffordd y dewisodd yr Aelod fynegi ei bryderon, ni ellir dod i’r casgliad bod ei bryderon yn gwbl ddi-sail neu nad oedd ganddo hawl i godi pryderon o fewn ffiniau eang hawl aelod i ryddid mynegiant.

Nid oes hanes blaenorol o gyfeirio’r Aelod at y Pwyllgor Safonau nac at Banel Dyfarnu Cymru.  Mae’r amser sydd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau, sy’n sylweddol, yn ogystal ag amgylchiadau personol yr Aelod, hefyd yn berthnasol.  Arweiniodd y ffactorau hyn, o’u hystyried gyda’i gilydd, at benderfynu nad yw er budd y cyhoedd i gymryd camau pellach mewn perthynas â’r materion hyn.

Fodd bynnag, nid yw ymddygiad gwael yr Aelod at swyddogion y Cyngor yn cael ei oddef gan y swyddfa hon.  Atgoffir yr Aelod o’i rwymedigaeth i gadw at ddarpariaethau’r Cod ac i ystyried sut mae ei ymddygiad yn effeithio ar bobl eraill.

O dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynwyd nad oes angen cymryd camau pellach mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.