Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202306423

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cawsom gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

Roedd yr Achwynydd, cyd-gynghorydd, yn poeni am wahanol gysylltiadau yr oedd yr Aelod wedi’u gwneud ag aelodau o’r gymuned lle’r honnwyd bod yr Aelod wedi awgrymu amhriodoldeb ar ran y Cyngor a chyd-gynghorwyr i bobl eraill.  Roedd yr Achwynydd yn bryderus bod yr Aelod felly wedi methu â thrin eraill ag ystyriaeth a pharch drwy wneud awgrymiadau di-sail i aelodau’r gymuned.  Yn ogystal, roedd yr Achwynydd yn bryderus bod yr Aelod wedi dwyn anfri ar y Cyngor drwy awgrymu drwgweithredu yn y Cyngor.  Honnwyd hefyd bod yr Aelod wedi awgrymu bod aelodau o’r gymuned yn rhan o rywfaint o ddrwgweithredu a oedd yn gysylltiedig â’r Cyngor.

Casglwyd gwybodaeth gan yr Achwynydd, rhai tystion digwyddiadau a gan yr Aelod.  Yn gyffredinol, roedd yn ymddangos bod yr aelod wedi gwneud rhai sylwadau diangen nad oeddent yn cyd-fynd â’r safonau a ddisgwylir gan gynghorwyr fel arweinwyr yn y gymuned.  Er bod gan yr Aelod hawl, o dan Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, i arddel barn a mynegi beirniadaeth, hyd yn oed os yw’n ddadleuol, nid oedd yr hawl hon yn absoliwt a bu’n rhaid ei chydbwyso â hawl pobl eraill i enw da a chael eu diogelu rhag beirniadaeth ddiangen a diogelu hyder y cyhoedd mewn sefydliadau democrataidd.

Yn gyffredinol, roeddem o’r farn bod rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi bod yn siarad ag aelodau o’r gymuned gan awgrymu drwgweithredu yn y Cyngor, pan nad oedd yn ymddangos bod sail ddilys gref dros awgrymiadau o’r fath.  Roeddem o’r farn bod ymddygiad o’r fath yn awgrymu ymddygiad a allai ddwyn anfri ar y Cyngor yn groes i Baragraff 6(1)(a) o’r Cod ac yn awgrymu methiant i drin ei gydweithwyr ag ystyriaeth a pharch, yn groes i baragraff 4(b) o’r Cod.

Roedd yn ymddangos mai bach iawn oedd yr effaith ar y gymuned leol o ystyried nad oedd yn ymddangos bod safbwyntiau’r Aelod wedi cael eu rhannu’n eang ar draws y gymuned.  O ystyried hyn, gan nad oedd yn ymddangos bod unrhyw dystiolaeth o fudd personol i’r Aelod ac oherwydd y dystiolaeth gyfyngedig i awgrymu bod y Cod wedi cael ei dorri, gwnaethom benderfynu nad oedd cymryd camau pellach yn gymesur nac er budd y cyhoedd.

Fodd bynnag, rhoddwyd cyngor i’r Aelod bod yn rhaid iddo ystyried yn ofalus yn y dyfodol sut mae gwneud awgrymiadau difrifol a di-sail am ddrwgweithredu yn y Cyngor yn effeithio ar yr unigolion dan sylw, ar enw da’r Cyngor yn ehangach, ac ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn democratiaeth leol.

Dywedwyd wrth yr Aelod hefyd, pe bai rhagor o gwynion tebyg yn cael eu cyflwyno i ni yn y dyfodol am yr Aelod, y byddai canlyniad y mater hwn yn cael ei ystyried ymhellach.