Dyddiad yr Adroddiad

25/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202404604

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr Aelod wedi cynnwys enwau ei chyd gynghorwyr ward mewn llythyr at bwyllgor trwyddedu’r Cyngor yn gwrthwynebu cais gan fusnes tecawê lleol i ymestyn ei oriau agor, heb ofyn caniatâd.  Honnodd yr Achwynydd fod yr Aelod wedi gweithredu’n anonest, er mwyn rhoi mwy o hygrededd i’r llythyr gwrthwynebu.  Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad ac y dylid ystyried paragraffau 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod.

Cawsom dystiolaeth ar y pryd bod yr Aelod wedi trafod gyda’i chyd-gynghorwyr a ddylid gwrthwynebu’r cais cyn anfon y llythyr gwrthwynebu.  Cadarnhaodd y cynghorwyr eraill eu bod yn fodlon iddi gynnwys eu henwau yn y gwrthwynebiad.  Roeddent hefyd wedi cadarnhau, pan oedd yr ymgeisydd yn apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor trwyddedu, fod yr Aelod wedi gwirio eto a oeddent am barhau i wrthwynebu, ac roeddent yn gwneud hynny.

Felly, nid oedd tystiolaeth bod y Cynghorydd wedi torri’r Cod.