Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref y Trallwng

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202403830/202402823

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref y Trallwng (“y Cyngor Tref”) a Chyngor Sir Powys (“y Cyngor Sir”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr Aelod, wrth fynychu digwyddiad y Cyngor Sir, wedi siarad yn sarhaus am yr Achwynydd, a oedd yn gweithio i’r Cyngor Tref, gan gyfeirio ati fel un ddiog a dweud nad oedd yn gallu gwneud ei gwaith yn iawn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad ac y dylid ystyried paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad (“y Cod”):

Canfu’r ymchwiliad, er bod yr Aelod yn gwadu gwneud y sylwadau, nid oedd yn gallu egluro pam roedd y person a oedd yn honni ei bod wedi gwneud y sylwadau hyn (tyst annibynnol), yn credu ei bod wedi gwneud hynny, ar wahân i awgrymu camddealltwriaeth bosibl oherwydd problemau â’i chlyw. Canfu’r ymchwiliad nad oedd hyn yn ddigon i egluro honiad y tyst, a’i bod yn fwy tebygol na pheidio bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau y gellid yn rhesymol eu dehongli fel rhai beirniadol o’r Achwynydd, hyd yn oed os nad oeddent i’r graddau yr honnir. O ystyried y diffyg tystiolaeth sylweddol, diffyg unrhyw effaith niweidiol ehangach (er gwaethaf gofid dealladwy’r Achwynydd wrth glywed y sylwadau), a hawl yr Aelod i ryddid mynegiant, nid ystyriwyd ei bod yn gymesur nac er budd y cyhoedd cymryd camau pellach. Fodd bynnag, atgoffwyd yr Aelod o bwysigrwydd cynnal perthynas barchus rhwng aelodau a swyddogion, a sut y gellir dehongli sylwadau.