Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod cyn aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Tref y Waun (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd ymddygiad y Cyn Aelod yn awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) wedi’u torri.
Cafodd adroddiad yr ymchwiliad ei gyfeirio at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor Sir.