Dyddiad yr Adroddiad

19/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Prestatyn

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb

Cyfeirnod Achos

202309122

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn-aelod (“y Cyn-aelod”) o Gyngor Tref Prestatyn (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad.  Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi ymddwyn yn amhriodol at yr Achwynydd.

Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(a) (cyfle cyfartal), 4(b) (parch ac ystyriaeth), 4(c) (aflonyddu) a 6(1)(a) (anfri) o’r Cod Ymddygiad.   Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor.  Darparodd yr Achwynydd dystiolaeth hefyd.

Gan ystyried dymuniadau’r Achwynydd a’r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd.  Felly, daethpwyd â’r ymchwiliad i ben.