Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Fynwy (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnwyd bod yr Aelod wedi torri’r Cod yn ystod cyfarfod pwyllgor craffu drwy ddefnyddio geiriau a oedd yn awgrymu bod yr Achwynydd wedi dweud celwydd mewn cyflwyniad fideo i’r Pwyllgor.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol ymchwilio ac y dylid ystyried y paragraffau canlynol o’r Cod:
- 4(b) – Rhaid dangos parch ac ystyriaeth at eraill.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys gohebiaeth a chofnodion perthnasol. Cafwyd tystiolaeth gan dystion a chafodd yr Aelod ei gyfweld.
Canfu’r ymchwiliad fod y sylwadau a wnaed gan yr Aelod yn wleidyddol eu natur gan ei fod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o’r Cabinet. Roedd yr Aelod yn teimlo bod angen amddiffyn datganiad yn y fideo yn ymwneud â chydweithiwr sy’n gynghorydd nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod a’i fod wedi cymryd gofal i osgoi galw’r Achwynydd yn gelwyddgi yn uniongyrchol.