Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Gwynedd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) wrth wneud sylwadau mewn perthynas â’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh). Honnwyd bod sylwadau wedi cael eu gwneud i achosi sioc a dicter, yn hytrach nag i hysbysu’r cyhoedd yn onest, ei bod wedi methu dangos parch ac ystyriaeth a bod yr Aelod wedi methu â pharchu arweiniad y Swyddog Monitro i beidio â thorri’r Cod Ymddygiad.
Ystyriodd ymchwiliad a oedd ymddygiad yr Aelod yn gallu dwyn anfri ar y Cyngor neu ar rôl yr aelod mewn modd a oedd yn awgrymu torri’r Cod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys gohebiaeth a chofnodion perthnasol. Cafwyd tystiolaeth gan dystion, a chafodd yr Aelod ei chyfweld.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd a’r esboniadau a ddarparwyd gan yr Aelod am ei gweithredoedd, penderfynodd yr Ombwdsmon, ar y cyfan, nad oedd y rhan fwyaf o sylwadau’r Aelod yn mynd y tu hwnt i’r terfynau a roddwyd iddi gan ei hawl i ryddid mynegiant. Fodd bynnag, oni bai am yr ymyriadau amserol a’r cyngor clir gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro, gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol. Gwnaeth yr Aelod un sylw nad oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol, yn enwedig gan fod yr Aelod yn cydnabod na allai gyfeirio at unrhyw ddogfennau a fyddai’n amodi’r sylw hwn.
Fodd bynnag, gan ystyried myfyrdodau’r Aelod ar y mater a’r amgylchiadau ehangach, gan gynnwys budd y cyhoedd, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Anogwyd yr Aelod i gymryd mwy o ofal yn y dyfodol, ac i gwblhau rhagor o hyfforddiant ar y Cod, yn enwedig o ran sut mae’n rhaid cydbwyso ei hawl Erthygl 10 i ryddid mynegiant yn erbyn yr angen i sicrhau bod hawliau ac enw da pobl eraill yn cael eu diogelu, yn unol â’r Cod Ymddygiad.
O dan Adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oes angen cymryd camau pellach yng nghyswllt y materion a oedd yn destun yr ymchwiliad.