Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth i’r Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror 2025.
Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi yn y Bwrdd Iechyd wrth ymateb i gŵyn Mr X a methiant i’w ddiweddaru’n iawn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, i gynnig taliad gwneud iawn o £50 i Mr X ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.