Cwynodd Mr X, gyda chymorth ei Aelod Seneddol, nad oedd wedi cael ymateb i gŵyn a wnaeth i Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ym mis Ionawr 2025.
Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi yn yr Ymddiriedolaeth wrth ymateb i gŵyn Mr X, a fyddai wedi achosi rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Mr X am yr oedi ac i gynnig taliad gwneud iawn o £100 iddo o fewn 4 wythnos, ac i anelu at gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos. Os na ellir anfon yr ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos, rhaid i’r Ymddiriedolaeth ddiweddaru Mr X yn fisol nes ei fod yn cael ei gyhoeddi.