Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag anfon llythyrau atgyfeirio at ei feddyg teulu newydd fel y gallai barhau â’i driniaeth y tu allan i Gymru.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi anfon llythyr atgyfeirio at feddyg teulu newydd Mr A ym mis Mawrth 2025 ond ni allai gadarnhau a oedd y llythyr wedi’i dderbyn. Achosodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth bellach i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, o fewn un wythnos, i ail-anfon y llythyr atgyfeirio drwy e-bost neu ddosbarthiad a gofnodwyd.