Mae’r Adroddiad yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan y swyddfa i gefnogi a hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws ei holl swyddogaethau.

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys:

  • gwaith mwy effeithiol i sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch i bawb: Yn ogystal â gwaith parhaus i wella’r wefan a’r adnoddau gwybodaeth, derbyniodd y swyddfa ychydig dros 160 o gwynion ar wahân i rai ysgrifenedig, nifer llawer uwch na’r llynedd (103). Eleni, dywedodd 86% o’r achwynwyr a gymerodd ran yn arolwg yr Ombwdsmon ei bod hi’n hawdd cysylltu â’r swyddfa.
  • canlyniadau cryf o ran ymwybyddiaeth a hyder yn y swyddfa ymhlith pobl Cymru: Eleni, dywedodd 48% o’r bobl a holwyd eu bod yn gwybod am yr Ombwdsmon – dim ond cyfran ychydig yn is na’r llynedd. Yn gadarnhaol, o’r holl grwpiau cydraddoldeb a fonitrwyd, dim ond pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol oedd ychydig yn llai ymwybodol na’r cyfartaledd o’r swyddfa.
  • cyfartaledd a chanolrif negyddol o ran ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau: Yn ogystal, tuedd barhaus yw bod menywod ymhlith gweithlu’r Ombwdsmon yn gyson yn fwy niferus na dynion, o gryn dipyn
  • cynnydd mawr yng nghyfran ein staff sydd â sgiliau’r Gymraeg: Eleni, roedd rhwng 26% a 28% o staff yr Ombwdsmon yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu yn y Gymraeg yn eithaf da neu’n rhugl.
  • digwyddiadau allgymorth llwyddiannus i godi ymwybyddiaeth o’r swyddfa: Amcangyfrifir bod 1000 o bobl wedi ymweld â stondin yr Ombwdsmon yn yr eisteddfod genedlaethol.

Er gwaethaf mwy o weithgarwch allgymorth a chyfathrebu, un o’r heriau allweddol sy’n parhau yw bod yr Ombwdsmon wedi cael trafferth amrywio proffil y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth. Hefyd, ychydig iawn o bobl sy’n parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn y Gymraeg.

"Rydym yn parhau â'r gwaith o dan ein Cynllun Cydraddoldeb 2023-26 a’n gwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar feysydd lle gallwn ddylanwadu ar, a gwneud, newid.

Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu adrodd eleni ar  enghreifftiau niferus o effaith gadarnhaol. Fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud o hyd cyn bod ein gwasanaeth yn hysbys ac yn hygyrch i bawb a all fod ei angen.

Fel bob amser, byddwn yn parhau i gefnogi a hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a’i werthfawrogi."

Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.