Cwynodd Ms L fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu â threfnu ei llawdriniaeth am glun newydd a’i fod wedi gwneud esgusodion am yr oedi.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi egluro’r rhesymau dros yr oedi wrth Ms L ond ei fod wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi. Achosodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth bellach i Ms L. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms L, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro am yr oedi ac i roi gwybod am y datblygiadau diweddaraf.