Dyddiad yr Adroddiad

20/08/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501559

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w thad, Mr B, cyn ei farwolaeth, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”).

Wrth dderbyn yr ymateb terfynol, roedd gan Mrs A gwestiynau eraill am driniaeth ei thad. Ystyriodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd yn y lle gorau i ateb y rhain, fel y Corff a oedd yn gyfrifol am ei ofal. Nid oedd Mrs A eisiau cwrdd â’r Bwrdd Iechyd, oherwydd ei fod wedi rhoi ei ymateb terfynol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, o fewn 2 wythnos, i gysylltu â Mrs A i nodi ei phryderon a’i materion sy’n weddill i gadarnhau cwmpas ei ymchwiliad, yna o fewn 30 diwrnod gwaith i gytundeb i gyhoeddi ymateb i unrhyw bryderon newydd yn unol â rheoliadau Gweithio i Wella, a/neu, o fewn 30 diwrnod gwaith i gytundeb i ddarparu ymateb i unrhyw bryderon sydd heb eu datrys ac sydd angen eglurhad.