Cwynodd Mrs X fod Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd wedi difrodi ei wal.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi cyhoeddi ymateb i Mrs X, nid oedd yn ymateb i’r gŵyn ffurfiol, ac ni chafodd ei gyhoeddi yn unol â’i gweithdrefn gwyno. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas, o fewn 3 wythnos, i ymddiheuro am fethu ag ymdrin â chŵyn Mrs X yn unol â’i gweithdrefn gwyno, cyhoeddi ymateb i gŵyn cam 2, a chynnig swm gwneud iawn o £100 am fethu â chyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn, y diffyg cyfathrebu ac am ei hamser a’i thrafferth.