Dyddiad yr Adroddiad

19/08/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202501502

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cymdeithas Dai Unedig Cymru wedi methu â datrys atgyweiriadau yn ei chartref.

Canfu’r Ombwdsmon fod Miss X wedi cwyno wrth y Gymdeithas ym mis Ebrill 2025, serch hynny, methodd â rhoi ymateb i gŵyn Miss X. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i  Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro ac egluro’r oedi, cyhoeddi ymateb i gŵyn cam 2, a chynnig swm gwneud iawn o £100 am yr oedi ac am ei hamser a’r drafferth o orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon.