Cwynodd Mr X fod Cyngor Caerdydd wedi methu â mynd i’r afael â’r sefyllfa ynglŷn â’r ardd yn yr eiddo, ac roedd yn anfodlon gyda’r ymateb.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr X a’r Cyngor wedi dod i gytundeb ynglŷn â’r ardd, serch hynny, roedd y Cyngor dal eisiau cyhoeddi’r ymateb yr oedd yn bwriadu ei wneud.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i gyhoeddi’r ymateb yr oedd wedi bwriadu ei wneud am y gŵyn. Bydd ymateb y Cyngor hefyd yn cynnwys diweddariad am y sefyllfa bresennol gyda’r ardd.