Cwynodd Mr A fod y Practis Meddyg Teulu wedi methu â chydnabod neu ymateb yn briodol i’w anghenion, a arweiniodd at ei dynnu oddi ar y rhestr gleifion.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi cyfathrebu’n effeithiol â Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis, o fewn un mis, i ystyried sut gellid gwneud addasiadau rhesymol i’w system archebu apwyntiadau, sicrhau bod newidiadau i arferion rhagnodi yn cael eu cyfathrebu’n briodol a sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r broses ar gyfer archebu cyfieithwyr ar y pryd.