Cwynodd Mr C fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi methu â chymryd camau gorfodi mewn perthynas â datblygiad wrth ymyl ei gartref.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd hi’n gallu ystyried y rhan fwyaf o’r materion a godwyd oherwydd eu bod wedi digwydd dros 12 mis yn ôl. Serch hynny, roedd hi’n gallu ystyried materion yn ymwneud ag ymdrin â chais Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB), nad oedd y Cyngor wedi mynd i’r afael ag ef yn ei ymateb i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gydnabod cwyn Mr C ynglŷn â’r ffordd yr ymdriniwyd â’r cais SAB o fewn un wythnos, ac i ymateb o fewn 4 wythnos.