Cwynodd Mrs A am oedi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wrth roi diagnosis i’w chyflwr cynhenid. Dywedodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chwestiynau pellach a roddodd mewn llythyr ym mis Mai 2025.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd wrth yr Ombwdsmon nad oedd wedi gweld y llythyr o’r blaen, ond y byddai’n fodlon ymateb i gwestiynau Mrs A.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb i Mrs A, o fewn 11 wythnos, i’r cwestiynau a godwyd yn y llythyr dyddiedig 6 Mai 2025.