Dyddiad yr Adroddiad

06/08/2025

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202500827

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Practis wedi ymateb yn llawn i’w chwynion am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd dros nifer o flynyddoedd.
Ar ôl asesu’r gŵyn, penderfynodd yr Ombwdsmon fod rhai o gwynion Ms A yn rhy hen i’w hystyried. Serch hynny, roedd Ms A wedi cyflwyno mwy o gwynion mwy diweddar i’r Practis nad aethpwyd i’r afael â nhw.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ymateb i gwynion mwyaf diweddar Ms A, i roi ymddiheuriad a diweddariad ar ei gofal a’i thriniaeth bresennol. Cytunodd y Practis i wneud hynny o fewn 30 diwrnod gwaith.