Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w thad, gan y Bwrdd Iechyd, rhwng Tachwedd 2023 a Medi 2024 ac nad oedd yr ymateb a roddwyd i’w chŵyn yn mynd i’r afael â’i holl bryderon.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliad i’r gŵyn, nid oedd yr adroddiad a roddwyd i Ms A yn mynd i’r afael yn llawn â’r pryderon a godwyd am ryddhau ei thad o’r ysbyty ym mis Medi 2024. Yn ogystal, roedd Ms A yn parhau i fod yn aneglur ynglŷn ag agweddau ar y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd wrth ymateb i ganfyddiadau ei ymchwiliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb llawn i Ms A er mwyn amlinellu canfyddiadau ei ymchwiliad o fewn 4 wythnos. At hynny, byddai’n darparu eglurhad ynglŷn â’r camau a gymerwyd yn dilyn ei ymchwiliad ac yn rhoi ymddiheuriad am beidio â mynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd yn ei ymateb blaenorol.