Cwynodd Mr C fod Practis Meddyg Teulu wedi gwrthod ymweld â’i bartner, Ms A, yn ei chartref am 6 mis, er bod ei hiechyd yn dirywio. Cwynodd, pan gynhaliwyd ymweliad cartref, fod yr asesiad a wnaed o’i bartner yn annigonol a bod yr atgyfeiriadau a wnaed yn amhriodol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi cymryd camau digonol i asesu Ms A yn dilyn canlyniadau gwaed a oedd yn peri pryder ac wedi methu â chydnabod bod cyflwr ei hiechyd wedi ei rhwystro rhag mynd i’r feddygfa. Efallai fod hyn wedi cyfrannu at oedi wrth wneud diagnosis o ganser a rhoi triniaeth, er ei bod yn annhebygol, yn anffodus, y byddai hyn wedi newid y canlyniad. Canfu’r Ombwdsmon fod yr asesiad a gwblhawyd yn ystod yr ymweliad cartref, a’r atgyfeiriadau a wnaed, yn briodol yn glinigol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr C nad oedd yr asesiad o angen Ms A am ymweliad cartref yn briodol yn glinigol, ac ni chadarnhaodd gŵyn Mr A am y gofal a ddarparwyd yn ystod yr ymweliad cartref.
Cytunodd y Practis i ymddiheuro i Mr C ac i roi adborth i’r meddyg dan sylw o fewn mis. Cytunodd y Practis hefyd i adolygu ei Bolisi Ymweliadau Cartref a’i Bolisi Cwynion o fewn 3 mis.